Mae’r Cyn Faer, y Cynghorydd Andy Williams a’i wraig a’r gyn Faeres, Bev Williams, wedi cael blwyddyn brysur iawn yn eu swyddi y llynedd, a’u gweithred olaf yn y swyddi hynny oedd trosglwyddo sieciau i’r elusennau a enwebwyd ganddynt 🙂
Fe wnaethant fynychu bron i 500 o ddigwyddiadau yn ystod eu blwyddyn gan godi dros £30,000, ac enwebu £15,000 pellach oedd yn golygu bod yr elusennau a ddewiswyd yn derbyn dros £45,000.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yr elusennau a dderbyniodd y sieciau oedd:
- Chariotts
- Dynamic
- Homestart
- Byddin yr Iachawdwriaeth
- Stepping Stones
- Theatr Ieuenctid Bitesize
- Ymatebwyr Cyntaf Wrecsam
- Hospis Tŷ’r Eos
- Ambiwlans Awyr Cymru
- Beiciau Gwaed – prynu beic gwaed £14,000 gweler y llun isod
- Cymdeithas Gerddorfaol Wrecsam a’r Fro
- The Katie Piper Foundation
Bydd Garden Village, ward lleol Andy hefyd yn elwa o ddiffibrilydd yn y dyfodol agos.
“Blwyddyn Anhygoel!“
Meddai Andy: “Roedd yn flwyddyn anhygoel! Roedd bod yn Faer a gweithio’n llawn amser yn flinedig iawn ond yn werth chweil. Fe wnaeth Bev a minnau gwrdd cymaint o bobl ysbrydoledig ac ymrwymedig dros ein 12 mis y byddai wedi bod yn amhosib sôn amdanynt a diolch iddynt i gyd yn unigol. Mae Wrecsam yn dref arbennig yn llawn o bobl a hanes anhygoel ac roeddem yn dau yn falch ac yn freintiedig iawn o gael bod yn Faer a Maeres am y flwyddyn. Rydw i’n arbennig o ddiolchgar i bawb wnaeth gefnogi ein helusennau, a roddodd i ni’r cyfanswm terfynol i’w ddosbarthu i elusennau lleol o dros £45,000. Roedd hyn yn anhygoel ac mae’n diolch yn fawr i’r bobl, y sefydliadau a’r grwpiau wnaeth ein cefnogi. Diolch yn fawr i bawb!”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN