Daeth chasglwyr recordiau allan mewn niferoedd mawr ddydd Sadwrn diwethaf i weld ffair recordiau gyntaf Tŷ Pawb!
Trefnwyd y ffair gan VOD Music o’r Wyddgrug, un o brif storfeydd record Gogledd Cymru.
Mae digwyddiad Sadwrn wedi cael ei enwi fel llwyddiant ysgubol gan y trefnwyr, gyda mwy na 750 o bobl yn mynychu.
Roedd y ffair yn cynnwys 36 o stondinwyr yn gwerthu recordiau o bob gener gerddoriaeth yn ogystal â DVD’s, CD’s a chofnodau cerddoriaeth eraill.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Lle y mae’n rhaid i chi ymweld
Dywedodd trefnydd y didgwyddiad, Colin Trueman (Vod Music): “Cawsom ein llethu gan y gefnogaeth anhygoel i Ffair Recordiau Sadwrn diwethaf yn Tŷ Pawb a hoffwn ddiolch i holl staff Tŷ Pawb, stondinau bwyd, marchnad ac ymwelwyr wrth gwrs am wneud ein ymweliad cyntaf yn ddiwrnod cofiadwy. Gafodd pawb argraff fawr iawn o’r lleoliad a hyblygrwydd y gofod, yr awyrgylch gwych (prysur iawn) a’r ffordd yr oedd yr holl ddigwyddiadau stondinau, celfyddydau a chymunedol wedi’u cyfuno gyda’i gilydd o dan un to.
“Y peth gwirioneddol braf oedd clywed gan llawer o ymwelwyr mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod yma ac y byddent yn awyddus i ddod yn ôl eto yn fuan.
“Diolch yn derfynol i Halycon Dreams ac i bawb a ddaeth i chwarae recordiau. Mae cerddioriaeth yn ymwneud â chymuned yn dod â phobl at ei gilydd ac rydym yn gobeithio bod yn ôl yma cyn bo hir.”
Nadolig enfawr ar y ffordd
Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, y Cyng. Hugh Jones: “Mae’n wych gweld bod Tŷ Pawb nawr yn cyflawni ei botensial yn gyson fel canolfan gymunedol fywiog yn Wrecsam a lleoliad a fydd yn tynnu siopwyr ac ymwelwyr o bob cwr o’r wlad.
“Yn ogystal â’r ffair recordiau hynod lwyddiannus, roedd y ddigwyddiad sinema plant ar nos Wener yn llawn hefyd. Mae dydd Sadwrn bellach wedi dod yn arbennig o brysur fel cyrchfan teuluol gyda phob math o ddigwyddiadau, crefftau a cherddoriaeth yn digwydd ochr yn ochr â’r siopa gwych a profiad bwyta a gynigir gan ein masnachwyr, ac wrth gwrs y celf hyfryd yn yr orielau.
“Mae llawer mwy o weithgareddau ar gyfer pob oedran yn cael eu cynllunio ar gyfer y Nadolig a byddwn yn annog pawb i gasglu copi o’r rhaglen o Tŷ Pawb, neu i lawrlwytho copi ar-lein.”
Gweler y rhaglen Nadolig llawn yma.
COFIWCH EICH BINIAU