Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Diweddarwyd diwethaf: Mai 18, 2026 12:17 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
housing development plan
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam bellach wedi dymchwel hen adeilad Greenacres ar Ffordd Rhosddu i wneud lle i ddatblygu tai cyngor newydd.

Mae’r ailddatblygiad wedi’i gynllunio i ddarparu 58 o gartrefi, a allai fod yn un o brosiectau datblygu tai cyngor mwyaf y Cyngor. Mae’r cynigion yn cynnwys cymysgedd o fathau o eiddo sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu’r anghenion tai a nodwyd ar y rhestr aros tai.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi fforddiadwy ar gyfer deiliaid contract y dyfodol, gan helpu i ateb y galw lleol a chynyddu argaeledd tai fforddiadwy yn Wrecsam.

Oherwydd ei agosrwydd at ganol y ddinas, ystyrir bod y safle yn addas iawn ar gyfer cynllun tai dan arweiniad y cyngor.

Mae’r prosiect bellach yn symud i’r cam Ymgynghori Cymunedol Cyn Ymgeisio (YCCY). Fel rhan o’r broses hon, mae’r Cyngor wedi paratoi cynigion drafft cychwynnol ac mae’n gwahodd adborth gan y cyhoedd cyn cyflwyno cais cynllunio llawn.

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n cael ei gynnal gan Cadnant Planning, yn dechrau ddydd Llun, 18 Mai a bydd ar agor am gyfnod o 28 diwrnod.

Bydd trigolion sy’n lleol i’r safle yn derbyn llythyr cyn bo hir yn eu gwahodd i rannu unrhyw sylwadau neu adborth a allai fod ganddynt ar y datblygiad arfaethedig. Bydd y llythyr yn cynnwys manylion llawn ar sut i gyflwyno ymateb.


Croesewir adborth hefyd gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun. Gellir cyflwyno sylwadau ar-lein yn https://www.cadnantplanning.co.uk/consultations/rhosddu-road neu drwy e-bostio PAC@cadnantplanning.co.uk  Mae’r wefan yn darparu rhagor o wybodaeth am y cynigion, a gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau ychwanegol at y cyfeiriad e-bost uchod.

Gallwch ddefnyddio unrhyw un o Lyfrgelloedd Wrecsam i weld y wybodaeth hon ar-lein, os nad oes gennych y cyfleusterau gartref.

Mae adborth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn rhan bwysig o’r broses a bydd yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i’r prosiect symud yn ei flaen. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn helpu i lunio’r cynigion terfynol, gan sicrhau bod y datblygiad yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol ac yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a godir gan y gymuned.

Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben a’r holl ymatebion wedi’u hadolygu, mae’r Cyngor yn bwriadu paratoi a chyflwyno cais cynllunio llawn ar gyfer y cynllun. Bydd yr adborth a ddarperir yn chwarae rhan allweddol wrth lywio’r cyflwyniad hwn ac arwain camau nesaf y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae hwn yn gynnig pwysig a allai ddarparu tai cyngor o ansawdd uchel, mawr eu hangen yn Wrecsam. Byddai safle Ffordd Rhosddu yn cynnig cyfle i greu tai cynaliadwy, fforddiadwy yn agos at ganol y ddinas.

Rydym nawr yn gofyn i drigolion rannu eu barn a bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried cyn i unrhyw gynigion terfynol gael eu dwyn ymlaen.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Dwylo person yn dal ffôn clyfar Rhif ffôn llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol i newid ar 19 Mai
Erthygl nesaf Herio Mythau a chodi hyder i weithio drwy’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru Herio Mythau a chodi hyder i weithio drwy’r Gymraeg yng Ngogledd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025
ArallArall

Diweddariad ar safle tirlenwi Hafod – Tachwedd 2025

Rhagfyr 1, 2025
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English