Ydych chi’n credu eich bod yn golffiwr da?

Os ydych chi, efallai yr hoffech ddod i gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni.

Bydd Tlws Golff Carlsberg Lager CBSW yn dychwelyd i Glwb Golff Wrecsam ddydd Gwener, Medi 28.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Caiff y digwyddiad – sy’n un o’r prif rai yng nghalendr chwaraeon Wrecsam – ei drefnu gan ein tîm Wrecsam Egnïol a’i noddi gan Carlsberg UK.

Y fformat yw cystadleuaeth Betterball Stableford i barau, gyda gwobrau sydd werth dros £400 – ac mae croeso i ferched gymryd rhan.

Rhaid i gystadleuwyr fod dros 18 oed ac mae’r tâl cystadlu o £45 fesul pâr yn cynnwys pryd o fwyd a dau ddiod am ddim.

Mae ffurflenni ymgeisio nawr ar gael o’n gwefan.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Wrecsam Egnïol ar 07808 787 587.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL