Rydym wedi ymestyn ein dyddiad cau ar gyfer ceisiadau rheolwr prosiect tan 31 Ionawr, gan roi amser ychwanegol i chi gael cyflwyno ceisiadau.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

Mae’r swydd dros dro hon o fewn y Tîm Treftadaeth a leolir yn Amgueddfa Wrecsam fel rhan o’r Tîm Adfywio yn yr Adran Tai ac Economi.

Mae Amgueddfa Wrecsam yn un o amgueddfeydd rhanbarthol mwyaf Cymru ac mae’n cynnwys rhaglen amrywiol ac arloesol o arddangosfeydd dros dro yn aml gan gynnwys gwrthrychau o Gasgliadau Cenedlaethol y DU.

Bydd y deiliad swydd yn rheoli prosiect oddeutu £5miliwn i ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam gan gynnwys Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru fydd yn brif ychwanegiad i dirlun diwylliannol Gogledd Cymru a bydd yn adrodd stori pêl-droed yng Nghymru.

Bydd y deiliad swydd yn gweithio gyda staff yr amgueddfa a’r cyngor, y tîm dylunio prosiect allanol, y grŵp llywio prosiect, rhanddeiliaid allanol, swyddogion codi arian a chontractwyr i reoli ailddatblygu’r amgueddfa a sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei amcanion.

Mae manylion llawn ar gael YMA

😷 Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU