Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Anogi beicwyr modur i gynnal gwiriadau diogelwch hanfodol wrth i feiciau dychwelyd i’r ffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Anogi beicwyr modur i gynnal gwiriadau diogelwch hanfodol wrth i feiciau dychwelyd i’r ffordd
Pobl a lle

Anogi beicwyr modur i gynnal gwiriadau diogelwch hanfodol wrth i feiciau dychwelyd i’r ffordd

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2026 10:44 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Anogi beicwyr modur i gynnal gwiriadau diogelwch hanfodol wrth i feiciau dychwelyd i’r ffordd
RHANNU

Erthygl gwadd – Heddlu Gogledd Cymru

Mae beicwyr modur ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i gynnal gwiriadau diogelwch hanfodol ar eu beiciau wrth i lawer o beiriannau ddod allan o storfa yn dilyn misoedd y gaeaf.

Gan fod disgwyl i’r tywydd wella a dod â mwy o feicwyr yn ôl ar y ffyrdd, mae Heddlu Gogledd Cymru yn atgoffa beicwyr modur y gallai cymryd ychydig funudau i wirio eu beiciau cyn eu taith gyntaf y tymor, atal gwrthdrawiadau, torri i lawr neu anafiadau difrifol.

Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Gall beiciau modur ddatblygu problemau sydd ddim hawdd i’w gweld, hyd yn oed os oeddynt mewn cyflwr da pan oeddynt yn cael eu cadw.

“Gall set gyflym o wiriadau cyn mynd allan wneud gwahaniaeth sylweddol. Gall teiars golli aer dros amser a gall rhannau o’r beic gloi felly mae’n hynod o bwysig fod beicwyr yn archwilio eu cerbydau cyn mynd arnynt. Mae’n well o lawer ceisio trwsio’r broblem cyn cychwyn ar siwrne yn hytrach na darganfod problem tra allan ar y ffyrdd, neu hyd yn oed ar ôl cael gwrthdrawiad.

“Byddem hefyd yn annog beicwyr i gymryd eu taith gyntaf y flwyddyn yn gyson, gan ganiatáu amser i ailadeiladu hyder ac ailymgyfarwyddo â’u beic modur ar ôl cyfnod y gaeaf. Fel beiciwr modur brwdfrydig fy hun, dwi’n gwybod bod ‘na rhyw fath o gyffro pan fyddwch yn mynd allan ar eich beic ar ôl y gaeaf, er mwyn cael bod allan unwaith eto a mwynhau’r rhyddid. Fodd bynnag, a allwch chi ddweud fod eich sgiliau mor dda a’r tro diwethaf i chi fod ar gefn beic modur?

“Waeth pa mor dda ydych chi’n meddwl ydych chi, mae yna le i wella o hyd. Felly, unwaith eto rydym yn annog beicwyr i ystyried hyfforddiant sgiliau ychwanegol drwy raglenni megis Beicio Diogel.

Fe ychwanegodd: “Os ydych yn bwriadu mentro allan ar eich beic modur y penwythnos yma, teithiwch ar gyflymder sy’n addas ar gyfer y ffordd, cymerwch sylw o’r tywydd a chyflwr y ffyrdd gan eu bod yn gallu bod yn anrhagweladwy, gwisgwch dillad llachar sy’n hawdd eu gweld a gwisgwch helmed a dillad addas arall.

“Cynghorir gyrwyr hefyd i feddwl am feiciau modur a sicrhau eu bod yn rhoi digonedd o le pan yn eu dilyn. Mae hefyd yn bwysig fod gyrwyr yn cadw llygad am feicwyr o hyd wrth iddynt gychwyn neu os yn tynnu allan o gyffyrdd. Mae ein neges yn un syml – edrychwch, edrychwch ac edrychwch eto.”

Mae beicwyr yn cael eu cynghori i archwilio:

  • Petrol
  • Olew
  • Dŵr
  • Difrod
  • Trydan
  • Teiars

Cânt eu hatgoffa hefyd i sicrhau bod eu hyswiriant, MOT a threth yn gyfredol, ac i wisgo dillad priodol bob tro y byddant yn reidio.

Gall unrhyw un sy’n bwriadu dychwelyd i reidio ar ôl seibiant hir hefyd ystyried hyfforddiant gloywi i helpu ailadeiladu sgiliau a hyder. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gwefan BikeSafe – the UK’s #1 police-led motorcycle safety & skills initiative

GALL DILLAD O SAFON ACHUB EICH CROEN!
Rhannu
Erthygl flaenorol Ailddiffinio effaith ddiwylliannol: Daw'r sector celfyddydau a diwylliant ynghyd i gefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029 Ailddiffinio effaith ddiwylliannol: Daw’r sector celfyddydau a diwylliant ynghyd i gefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029
Erthygl nesaf Wyth o brif atyniadau Wrecsam yn uno i lansio llwybr ymwelwyr newydd Wyth o brif atyniadau Wrecsam yn uno i lansio llwybr ymwelwyr newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English