Mae gan Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam adnodd newydd sy’n eich tywys drwy’r broses o wneud cais am gredyd cynhwysol a hefyd yn mynd a chi drwy’r porth swyddi.
Mae’n ganllaw cam wrth gam syml sy’n helpu gyda:
- Credyd Gynhwysol – y broses a sut i wneud cais
- Paru â Swyddi – dysgu sgiliau cyfrifiadurol, sut i chwilio am swyddi, creu ac uwchlwytho CV
- Sgiliau ar gyfer cyflogaeth – sgiliau ar gyfer cyfweliad a pharatoi ar gyfer swydd newydd
Yn ogystal â hyn, gallwch ddysgu sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol fel sut i ddefnyddio llygoden. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am baratoi ar gyfer cyfweliad, argymhellion ar sut i ysgrifennu CV a llawer mwy. Mae pob adran wedi’i rhannu’n fodiwlau a gallwch weld pa fodiwlau ‘da chi wedi’u cwblhau. Mae’r adnodd gwerthfawr yma ar gael ar dudalennau gwe’r llyfrgell www.wrecsam.gov.uk/llyfrgelloedd (dilynwch y ddolen gwasanaethau ar-lein) a gallwch ei ddefnyddio gartref neu yn y llyfrgell ond byddwch angen cerdyn llyfrgell dilys er mwyn gallu gwneud hynny.
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i’ch cefnogi chi os ‘da chi ar incwm isel neu allan o waith. Mae’n fudd-dal sy’n cael ei dalu bob mis i’ch helpu chi gyda’ch costau byw. Mae’n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.
“Adnodd defnyddiol, rhad ac am ddim”.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau, Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hwn yn adnodd rhad ac am ddim defnyddiol fydd yn gallu helpu pobl wrth iddyn nhw geisio gwneud cais am gredyd cynhwysol. Mae’n bosibl ei ddefnyddio yn y cartref neu yn y llyfrgell ac mae’n mynd â chi gam wrth gam drwy’r broses. Os ‘da chi’n cael trafferthion gwneud cais am gredyd cynhwysol, mae’r adnodd ar-lein hwn yn sicr yn werth edrych arno.”
I ddefnyddio’r canllaw bydd angen i chi fod yn aelod o’r llyfrgell. Does dim rhaid talu i fod yn aelod o lyfrgelloedd Wrecsam. Gallwch ymuno yma, neu ewchi i’ch llyfrgell leol. Cofiwch fynd â phrawf o’ch enw a’ch cyfeiriad efo chi.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat