Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ap newydd wedi ei lansio i dracio ac olrhain y coronafeirws
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Adult holding a child's hand
Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Digwyddiadau Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ap newydd wedi ei lansio i dracio ac olrhain y coronafeirws
ArallPobl a lle

Ap newydd wedi ei lansio i dracio ac olrhain y coronafeirws

Diweddarwyd diwethaf: 2020/04/27 at 3:26 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Ap newydd wedi ei lansio i dracio ac olrhain y coronafeirws
RHANNU

Gallwch helpu’r GIG i greu gwell dealltwriaeth o’r coronafeirws gan roi dim ond un munud o’ch amser bob dydd.

Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho’r Ap Traciwr Symptomau COVID a’i ddefnyddio bob dydd i adrodd am eich iechyd. Bydd defnyddio’r ap i gofnodi eich symptomau bob dydd yn helpu i greu darlun cliriach o’r ffordd y mae’r feirws yn effeithio ar bobl. Mae’r ap ar gyfer pawb, nid dim ond y rhai sy’n profi symptomau.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a GIG Cymru yn apelio ar y cyhoedd yng Nghymru i lawrlwytho’r ap newydd er mwyn helpu’r GIG i ymateb i COVID-19 yng Nghymru.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Fe’i datblygwyd gan ymchwilwyr yng Ngholeg King’s yn Llundain a’r cwmni gwyddoniaeth gofal iechyd, ZOE. Mae’r Traciwr Symptomau COVID-19 eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fwy na 38,000 o bobl yng Nghymru, a dros 2 filiwn ar draws y DU. Mae pobl yn defnyddio’r ap i dracio’u hiechyd dyddiol ac unrhyw symptomau COVID-19 posibl. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan weithwyr gofal iechyd a gweithwyr mewn ysbytai.

Bydd data o’r ap Traciwr Symptomau COVID-19 yn cael eu rhannu’n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yn rhoi arwyddion cynnar ynglŷn â ble bydd derbyniadau i’r ysbyty yn debygol o ddigwydd.

Bydd gwyddonwyr o Goleg King’s yn Llundain a Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddadansoddi’r data er mwyn bod yn sail i fodelu a deall a rhagweld y sefyllfa sy’n datblygu yng Nghymru ynghylch y clefyd.

Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Byddwn yn annog pawb sy’n gallu i lawrlwytho’r ap hwn. Mae am ddim a bydd ei ddefnyddio yn golygu y bydd gan GIG Cymru ddarlun cliriach o gyflymder lledaeniad y feirws a ble mae’r ardaloedd â’r problemau.”

Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae creu darlun o’r modd y mae’r feirws yn datblygu yn yr ardal leol yn bwysig wrth i ni ddarparu gwasanaethau ac i’r rhai sy’n cyflwyno’r gwasanaeth hwnnw.  Os ydych eisiau helpu yn ystod yr amser anodd hwn, dyma un ffordd o wneud hynny.”

Mae’r ap ar gael i lawrlwytho o Siop Apiau Apple ac o Google Play o’r dolenni yn covid.joinzoe.com.

Mae mapiau o’r symptomau dyddiol a chynnwys arall ar gael drwy https://covid.joinzoe.com/blog.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae cael amrediad o dystiolaeth a data yn hanfodol i’n helpu ni i greu darlun clir o’r ffordd y mae’r feirws yn ymddwyn ac yn effeithio bywydau pawb. Yn y bôn, gall yr ap hwn ein helpu ni i ragweld ardaloedd â phroblem COVID a pharatoi ein gwasanaethau GIG. Rwy’n gofyn i bawb yng Nghymru lawrlwytho’r ap Traciwr Symptomau COVID newydd, fel y gallwch helpu i ddiogelu ein gweithwyr ac achub bywydau. Gyda’n gilydd gallwn greu’r llun gwyddonol gorau fel ein bod wedi ein harfogi’n well i ddelio â’r clefyd ofnadwy hwn.

“Mae’r tîm ymchwil yng Ngholeg King’s yn Llundain a ZOE yn dadansoddi’r data er mwyn cynhyrchu gwybodaeth newydd am y clefyd. Mae map rhyngweithiol sy’n caniatáu i unrhyw un weld dosbarthiad COVID yn eu hardal ar gael yn covid.joinzoe.com yn ogystal â diweddariadau gwyddonol cyson.”  

Dywed yr Athro Tim Spector sy’n brif ymchwilydd yng ngholeg King’s Llundain: “Mae data cywir a chyfredol yn hanfodol os ydym am drechu’r clefyd hwn. Heb brofi cywir ac eang, mae’n hanfodol fod gennym gymaint o ddata â phosibl i’n helpu ni i ragweld ble fydd y galw mawr nesaf am wasanaeth fel y gellir dyrannu’r adnoddau’n effeithiol mewn da bryd er mwyn ateb gofynion cleifion. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn gam cadarnhaol iawn i’r cyfeiriad cywir a gobeithiwn weld grwpiau eraill o’r GIG yn ymuno â ni yn y dyddiau nesaf.

“Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un sydd eisoes yn cymryd rhan, a byddem yn annog pawb arall i lawrlwytho’r ap a chysylltu bob dydd, prun ai’ch bod chi’n profi symptomau neu’n teimlo’n berffaith iawn.”

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Rhannu
Erthygl flaenorol Playing Parhewch i chwarae. Mae’n llesol i bawb ohonom
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 28.04.20

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
DigwyddiadauPobl a lle

Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Awst 5, 2025
Celf ffenestr cartŵn llachar gan 'PaintedCreations by ME' (Michelle Edwards) ar gyfer arddangosfa 'Seirian versus the Leukamians' yn Nhŷ Pawb, Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Arddangosfa Seirian yn Nhŷ Pawb: creadigrwydd dewr trigolyn ifanc Wrecsam

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English