Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Busnes ac addysgPobl a lle

Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud

Diweddarwyd diwethaf: Medi 12, 2018 9:48 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
RHANNU

Pa mor gyfarwydd ydych chi â chanol tref Wrecsam?

Cynnwys
  • Yr Ardal Gadwraeth
  • Beth allwn ni ei wneud?
  • “Peidiwch â cholli allan”

Pa mor dda ydych chi’n gwybod ei hanes?

Oeddech chi’n gwybod fod yna drysorau pensaernïol anhygoel yn y dref?

“Beth”, meddech chi, “onid blaen siopau modern sydd yna?”

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ar y llawr gwaelod efallai.

Ond y peth pwysig ydi – i edrych fyny!

Tarwch olwg ar y sioe sleidiau isod i weld ychydig o’r nodweddion nad ydych wedi sylwi arnynt.

Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud
Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud

Mae rhai o’r nodweddion pensaernïol yma’n dyddio nôl i orffennol Wrecsam fel tref farchnad yn y 16eg a 17eg ganrif.

O ystyried y diddordeb pensaernïol ac ansawdd rhai o’r adeiladau yma, a’r tirnodau hanesyddol mwy amlwg fel Marchnad y Cigyddion ac Eglwys San Silyn, mae’n rhaid i ni wneud yr hyn allwn ni i edrych ar ôl cymeriad hanesyddol y dref.

Yr Ardal Gadwraeth

Mae gennym gynlluniau ar waith eisoes ar gyfer rhai o’r prif adeiladau yng nghanol y dref, yn rhan o gynllun gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol.

Rydym ni hefyd yn edrych ar yr ardal gadwraeth gyfan, a sut y gall ein helpu i gynnal ymddangosiad cyffredinol a chymeriad hanesyddol canol y dref.

Nod Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam yw diogelu a gwella cymeriad ac ymddangosiad arbennig canol y dref, ac mae gennym gynllun ar waith i’n helpu i gyrraedd y nod honno.

Mae’r cynllun yn cael ei ddiweddaru ac fe hoffem glywed eich barn am yr ardal, i amlygu unrhyw broblemau a phryderon a helpu nodi cyfleoedd a blaenoriaethau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.

Ardal Gadwraeth Canol y Dref – Dywedwch eich dweud

Beth allwn ni ei wneud?

Rydym eisiau clywed eich barn am yr ardal gadwraeth, a sut y gallwn wneud defnydd da ohono.

Rydym angen gwybod pa mor bwysig ydych chi’n meddwl ydi’r ardal gadwraeth, ac ydych chi’n meddwl bod angen newid y ffiniau.

Beth yw’r elfennu cadarnhaol? Beth yw’r elfennu negyddol? Beth mwy sydd angen ei wneud?

Yn rhan o’r ymgynghoriad, rydym ni’n cynnal arolwg ar ein gwefan arolwg Eich Llais.

I gymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch ar y ddolen hon.

Ni fydd yr arolwg cyfan yn cymryd mwy nag ychydig funudau i’w gwblhau – felly os ydych chi’n credu bod cymeriad hanesyddol Wrecsam yn bwysig, mae hi werth treulio ychydig funudau yn cymryd rhan.

“Peidiwch â cholli allan”

Dywedodd y Cyng. David Kelly, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chynllunio: “Mae yna asedau anhygoel yng nghanol tref Wrecsam sydd yn cyfrannu at gymeriad ac ymddangosiad hanesyddol y dref. Bydd Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion yr Ardal Gadwraeth canol y dref yn ein helpu i gadw a gwella’r cymeriad arbennig yma.

“Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod yn gwybod beth yw barn y cyhoedd o ran y cynllun, felly buaswn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes a threftadaeth y dref i dreulio ychydig funudau yn cymryd rhan”.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymgynghoriad ar gynlluniau i ymestyn ysgol Ymgynghoriad ar gynlluniau i ymestyn ysgol
Erthygl nesaf Golf Competition Tournament Active Wrexham Golffio amdani!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English