Bydd Tŷ Pawb yn croesawu ymwelwyr yn ôl i’w galerïau yn ystod mis Hydref drwy lansio arddangosfa newydd, o’r enw ‘Arddangosfa Agored Tŷ Pawb.’
Yn dilyn galwad agored a arweiniodd at 350 o arlunwyr yn cyflwyno hyd at dri darn o waith i’w hystyried, byddwn yn cyflwyno gwaith dros 100 o’r rhai a gymerodd ran. Bydd dros 121 o ddarnau gwaith yn cael eu harddangos yng ngalerïau Tŷ Pawb. Mae hyn yn cynnwys 60 o arlunwyr Cymraeg.
Gwobrau i’w cyhoeddi
Ar noson agoriadol yr arddangosfa, dydd Gwener, 2 Hydref o 6:30pm, bydd y beirniaid yn cyhoeddi enillwyr y gwobrau yn y tri chategori canlynol: Gwobr y Beirniaid, Gwobr yr Unigolyn Ifanc, a’r Wobr Gymhwysedd ar gyfer yr ymateb mwyaf dyfeisgar i’r cyfnod clo.
Ein beirniaid yw:
Alistair Hudson
Cyfarwyddwr, Oriel Celf Manceinion & Oriel Celf Whitworth
Lesley James
Ennillydd Gwobr Y Beirniaid 2018
Ffion Rhys
Curadur, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Bydd modd pleidleisio ar gyfer pedwerydd categori, sef Gwobr y Bobl, drwy gydol yr arddangosfa, a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ym mis Rhagfyr.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Oriau agor a gwybodaeth ddiogelwch
Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o ddydd Sadwrn, 3 Hydref tan ddydd Mercher, 23 Rhagfyr.
Bydd y galerïau ar agor o 10am tan 4pm, dydd Mercher – dydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Sul, dydd Llun a dydd Mawrth).
I sicrhau fod ymwelwyr yn gallu mwynhau’r arddangosfa’n ddiogel, dim ond hyn a hyn o bobl fydd yn cael mynediad i’r galerïau ar unwaith. Cynghorir yn gryf i chi archebu lle ymlaen llaw, Gweler isod am fanylion ar sut i archebu
Bydd glanweithwyr dwylo ar gael wrth y mynedfeydd i Tŷ Pawb.
Bydd system unffordd ar waith yn yr orielau.
Byddwn yn cymryd manylion ar gyfer Profi ac Olrhain wrth i chi fynd i mewn i’r oriel.
Gofynnwn i bob ymwelydd wisgo mwgwd wyneb.
Bydd aelod o dîm Tŷ Pawb wrth law i roi arweiniad ac ateb unrhyw ymholiadau.
Sut i archebu
Byddwn yn cyhoeddi’r holl fanylion ar sut i archebu ar y dudalen hon yn fuan iawn. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol:
Neu Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
Gallwch hefyd gysylltu â ni:
typawb@wrexham.gov.uk
01978 292144
‘Dathliad o creadigrwydd, arloesedd a’r gwytnwch’
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Prif Aelod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Rydym yn falch o allu croesawu ymwelwyr yn ôl yn ddiogel i galerïau Tŷ Pawb a rhoi cyfle i arlunwyr ddangos eu gwaith mewn galeri unwaith eto.
“Bu’n rhaid canslo neu ohirio arddangosfeydd ar draws y wlad o fis Mawrth eleni yn sgil effaith COVID-19. Mae arlunwyr wedi bod yn defnyddio dulliau arddangos eraill o ganlyniad.
“Trwy gydol y cyfnod hwn, mae Tŷ Pawb wedi cynnig rhaglen ‘Celf Cartref’ ar-lein a oedd yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth byw, gweithgareddau celf ar-lein ar gyfer teuluoedd ac Aseiniadau Creadigol arloesol a ddatblygwyd gydag arlunwyr ar draws Cymru. Mae’r gweithgareddau wedi bod yn boblogaidd iawn ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd nifer o’r gwaith a grëwyd gan y cyfranogwyr yn cael eu harddangos yn nigwyddiad Agor Drysau Tŷ Pawb.”
“Bydd yr arddangosfa’n dathlu’r creadigrwydd, arloesedd a’r gwytnwch a ddatblygwyd gan arlunwyr yn ystod y cyfnod clo dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
“Rydym wedi dotio’n lân at yr amrywiaeth enfawr o waith a’r safon uchel a gyflwynwyd i ni. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys dros 120 o ddarnau gwaith ar draws ystod eang o lwyfannau creadigol, o beintio a cherflunio i argraffu a fideos, felly bydd rhywbeth at ddant pawb.”
YMGEISIWCH RŴAN