Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu dwy arddangosfa wybodaeth i’r cyhoedd a fydd yn cael eu cynnal i ddangos sut mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr opsiynau i wella’r A483 rhwng Cyffordd 3 a 6.
Cynhelir yr arddangosfeydd hyn yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr ddydd Mawrth, 25 Mehefin a dydd Iau, 27 Mehefin. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 10am a 6pm ar 25 Mehefin a rhwng 1pm ac 8pm ar 27 Mehefin.
Mae’r A483 yn un o’r llwybrau cysylltiol allweddol rhwng Gogledd Cymru yn ogystal â Lloegr ac mae gwaith eisoes wedi’i wneud i amlinellu’r problemau sy’n effeithio ar y coridor a’r prif ffactorau cyfrannol.
Mae rhestr o ddatrysiadau posibl yn cael ei datblygu a’i hasesu sy’n dangos y coridor rhwng Cyffordd 3 a 6 a’r cyffyrdd cysylltiedig fel ardaloedd allweddol sydd angen eu gwella.
Nod yr opsiynau sy’n cael eu datblygu yw gwella diogelwch, cadernid a dibynadwyaeth amseroedd teithiau ar yr A483, darparu gwell cysylltedd dwyrain – gorllewin ar draws y llwybr a lleihau damweiniau ac oedi.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae gwella cysylltedd yn hanfodol i dwf economaidd yn Wrecsam ac yn cefnogi dyhead ehangach y Cyngor i wella cysylltiadau cludiant i Ogledd Cymru a Lloegr. Rwy’n gobeithio y bydd preswylwyr yn cymryd y cyfle hwn i edrych ar yr opsiynau. Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio â Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd ac rydym yn falch iawn o weld hyn yn datblygu.”
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys cefnogi darpariaeth cludiant cyhoeddus a theithio llesol i leihau defnydd cerbydau a fydd hefyd yn gwella ansawdd aer yn enwedig rhwng cyffordd 5 a 6.
Manylion am yr Arddangosfa i’r Cyhoedd
Dydd Mawrth, 25 Mehefin a dydd Iau, 27 Mehefin yng Nghanolfan Catrin Finch ar Gampws Prifysgol Glyndŵr.
Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 10am a 6pm ar 25 Mehefin a rhwng 1pm ac 8pm ar 27 Mehefin.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN