Mae ymarfer corff tu allan yn ffordd wych o wella a chynnal ffitrwydd corfforol, yn ogystal â gwella iechyd meddwl a lles.

Yn ystod y cyfnod atal, bydd angen i ni addasu a gwneud newidiadau i’r ffordd a lle rydym yn ymarfer corff.

Bydd parciau, yn ogystal â pharciau gwledig yn Wrecsam yn aros ar agor ar gyfer ymarfer corff yn ystod y cyfnod hwn.

Ond dylech ond ymweld â’r rhain os allwch gerdded yno, er mwyn osgoi gwneud unrhyw siwrneiau diangen.

Yn ystod y bythefnos nesaf, bydd rhai rhannau o’n parciau, megis cyrtiau chwaraeon, parciau sglefrio a meysydd bowlio yn cau.

Bydd y canolfannau ymwelwyr a thoiledau hefyd ar gau.

Bydd ardaloedd chwarae plant yn aros ar agor, a gofynnwn eich bod yn dilyn canllawiau’r llywodraeth wrth ymweld â nhw.

Er nad oes cyfyngiad ar y pellter gallwch fynd yn ystod eich ymarfer corff, yr agosaf rydych yn aros at eich cartref, y gorau oll.

Mae canllawiau ar gyfer pobl gyda materion iechyd neu symudedd penodol, a fydd angen teithio o’u cartrefi er mwyn gallu ymarfer corff, ar gael yma.

Bydd meysydd parcio yn aros ar agor ar gyfer y dibenion hyn.

Yn ogystal ag ymweld â’ch parc lleol, gallwch roi eich esgidiau cerdded ymlaen a cherdded ar hyd y nifer o filltiroedd o lwybrau cerdded cyhoeddus sydd ar hyd y sir.

Os nad ydych yn dewis dilyn y llwybrau cerdded, dilynwch y Cod Cefn Gwlad a glynwch at gadw pellter cymdeithasol os ydych yn cwrdd ag unigolyn neu deulu arall ar y llwybr.

Mae gennym lawer o wybodaeth ar hawliau tramwy cyhoeddus ar ein gwefan.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae mynd tu allan i ymarfer corff bob amser yn llesol, ac mae ein parciau yn edrych yn odidog ar hyn o bryd, yn llawn lliwiau’r hydref, felly mae’n amser gwych i fod tu allan. Rydym yn annog pobl i gadw’n actif ond i aros yn ddiogel ac aros yn lleol.