Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Artist? Dyma gyfle rhy dda i’w golli…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Artist? Dyma gyfle rhy dda i’w golli…
FideoPobl a lle

Artist? Dyma gyfle rhy dda i’w golli…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 27, 2018 12:10 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
RHANNU

Ydych chi’n artist neu creawdwr addawol sydd eisiau cyflwyno eich gwaith i’r cyhoedd?

Cynnwys
  • 50 am 50
  • “Cyfle rhy dda i’w golli”
  • Anfonwch e-bost atom

Efallai y gallwn eich helpu chi.

Rydym yn chwilio am waith celf newydd ar gyfer ein peiriannau Art Vend sydd i’w cael mewn lleoliadau ar draws Wrecsam.

Mae’r peiriannau yn cynnwys cynwysyddion bach siâp pêl ac yn dal gwaith celf unigryw a bychan – a’r cyfan ar gael am ddim ond £1 yr un!

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

50 am 50

Rydym yn edrych i gomisiynu nifer o artistiaid i greu 50 o ddarnau bach amryfal o gelf am £50.

Yr unig ofyniad yw bod unrhyw waith sy’n cael ei gyflwyno yn fach ac yn artistig – felly bydd angen meddwl creadigol i wneud yn siŵr eu bod nhw’n ffitio i mewn i’r cynwysyddion.

“Cyfle rhy dda i’w golli”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Chymuned yng Nghyngor Wrecsam: “Dyma gyfle sy’n rhy dda i’w golli i artistiaid sydd eisiau cyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd ond sydd ddim o reidrwydd eisiau mynd i lawr y trywydd oriel draddodiadol.

“Mae’r peiriannau art vend wedi helpu nifer o weithiau celf unigryw a bychan i gyrraedd dwylo pobl sy’n hoffi eu gwaith am bris sy’n llai na chwpanaid o goffi.”

Anfonwch e-bost atom

I gyflwyno eich gwaith neu am fwy o fanylion anfonwch e-bost at typawb@wrexham.gov.uk gyda’r pennawd ‘Art Vend 5’.

Byddwch hefyd angen rhoi disgrifiad ysgrifenedig sydyn i ni o’r hyn y byddwch yn bwriadu ei wneud, disgrifiad cryno pam eich bod eisiau cymryd rhan (dim mwy na 200 o eiriau), hyd at chwe llun o unrhyw esiamplau perthnasol o’ch gwaith blaenorol a chysylltiadau i’ch gwefan neu unrhyw bresenoldeb arall ar y we.

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw Medi 30fed-  felly sicrhewch eich bod yn anfon yr holl fanylion atom cyn hynny!

Peidiwch ag oedi – rhowch gynnig arni!

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Council Community Support Work Eisiau swydd hyblyg lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?
Erthygl nesaf GWYLIWCH: Awdur lleol, Phil, yn cyfieithu llyfr plant i'r Gymraeg GWYLIWCH: Awdur lleol, Phil, yn cyfieithu llyfr plant i’r Gymraeg

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English