Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Eisiau swydd hyblyg lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Eisiau swydd hyblyg lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?
Busnes ac addysgY cyngor

Eisiau swydd hyblyg lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 27, 2018 10:19 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Council Community Support Work
RHANNU

Mae pobl arbennig yn byw yn ein cymuned leol…

Cynnwys
  • Felly, beth alla i wneud?
  • Beth fydda i’n ei wneud?
  • Yr un perffaith?
  • Rhai oriau’r wythnos felly?
  • Mrs P
  • Mae gen i ddiddordeb… sut ydw i’n cael rhagor o wybodaeth?

Ac efallai nad ydynt yn gallu gwneud y pethau maent yn eu fwynhau, am sawl rheswm gwahanol… efallai bod angen ychydig o gymorth a chefnogaeth arnynt.

Felly, beth alla i wneud?

Os oes gennych rhai oriau’n rhydd bob wythnos, gallwch eu defnyddio i fod yn weithiwr cefnogi hunangyflogedig yn ein Tîm Cefnogaeth Gymunedol.

Ac os ydych chi’n credu nad oes gennych ddigon o brofiad… mae hyn yn hollol dderbyniol, fe rown hyfforddiant i chi!

Ac os nad ydych yn gyrru, mae hynny’n iawn hefyd. Mae’n well gennym fod pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus beth bynnag.

Beth sydd ei angen arnoch yw ymrwymiad da, a natur ofalgar.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Beth fydda i’n ei wneud?

Fel gweithiwr cefnogi, byddwch yn rhoi cymorth i’r henoed neu bobl anabl gael mynediad at eu cymunedau. Byddwch yn eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth, fel bod eu bywydau’n cynnwys y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Gall hyn gynnwys gweithgareddau hamdden, addysg bellach neu roi help llaw iddynt gysylltu â hen ffrindiau.

Yr un perffaith?

Beth sy’n wych am y swydd hon yw, y byddwn yn ceisio paru’r gofalwyr gyda phobl â’r un diddordebau a hobïau. Felly, dylai’r pethau rydych yn eu gwneud gyda’ch gilydd fod yn bethau mae’r ddau ohonoch yn eu mwynhau.

Rhai oriau’r wythnos felly?

Mae’r swydd yn un hunangyflogedig… chi fydd yn rheoli faint o oriau rydych yn gweithio! Os ydi hynny’n dair awr yr wythnos, neu’n 37… mae hynny’n benderfyniad i chi’n hollol.

I roi syniad gwell i chi o’r math o bobl y byddwch yn eu helpu, dyma astudiaeth achos cryno ar Mrs P…

Mrs P

Cafodd Mrs P ei atgyfeirio atom yn 2015. Mae hi’n 87 mlwydd oed ac yn byw gydag Alzheimer, ac roedd hi’n unig iawn.

Roedd stopio gyrru a dychwelyd ei thrwydded yrru yn ei gwneud hi’n anodd mynd o un lle i’r llall yn annibynnol.

Bu hi’n mwynhau peintio, dawnsio, croesbwytho a garddio… ond ar hyn o bryd, nid oedd hi’n gwneud llawer o ddim, ond gwylio’r teledu ar ei phen ei hun.

Daethom o hyd i ofalwr a oedd yn gallu treulio dwy sesiwn, tair awr o hyd gyda hi, bob wythnos. Mae hyn yn caniatáu iddi fwynhau gweithgareddau’r gymuned a chyfarfod eraill…gan fynd i’r afael â’r unigedd oedd yn ei gwneud iddi bryderu.

Nawr, mae hi wedi magu hyder ac mae lefelau ei gofid wedi gostwng.

Ar ôl rhai wythnosau’n unig, roedd y gwahaniaeth i’w weld… roedd hi’n wên o glust i glust pan roedd hi’n siarad am y gefnogaeth roedd hi’n ei gael.

Roedd hyn hefyd yn lleihau’r pwysau ar ferch Mrs P.

Mae gen i ddiddordeb… sut ydw i’n cael rhagor o wybodaeth?

Ffoniwch Lynette Lewis ar 01978 298424 neu anfonwch neges e-bost at ein Tîm Cefnogaeth Gymunedol.

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/community_services/flytipping.htm “] DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Darganfyddwch Madagascar gyda Cheidwaid Saffari Sw Caer Darganfyddwch Madagascar gyda Cheidwaid Saffari Sw Caer
Erthygl nesaf Artist? Dyma gyfle rhy dda i’w golli... Artist? Dyma gyfle rhy dda i’w golli…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English