Bydd gyrwyr yn cael eu hatgoffa i wylio’u cyflymder ar lwybr drwy’r pentref.
Mae arwyddion ffordd newydd ar Heritage Way, y prif lwybr sy’n cysylltu Brymbo a Thanyfron gyda Ffordd Rhuthun / yr A525 i mewn ac allan o Wrecsam.
Mae’r arwyddion ymatebol newydd yn eu lle er mwyn rhybuddio gyrwyr os ydynt yn mynd dros y terfyn cyflymder o 40mya.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Prynwyd yr arwyddion wedi i Gyngor Wrecsam dderbyn cyllid gostwng damweiniau, gyda’r amcan penodol o wella arwyddion ar hyd y ffordd.
Ymgeisiodd y cyngor am y cyllid wedi i drigolion fynegi pryderon.
Meddai’r Cynghorydd Paul Rogers, aelod ward ar gyfer Brymbo: “Mae Heritage Way yn ffordd brysur sy’n cysylltu Tanyfron a Brymbo â Wrecsam.
“Ond mae angen i yrwyr gofio bod y rhan hon o’r ffordd yn dod yn ffordd faestref yn sydyn iawn wrth nesáu at Danyfron, ac mae hefyd yn cael ei defnyddio gan gerddwyr sy’n mynd a dod i’r Ganolfan Chwaraeon a Chymdeithasu sydd gerllaw.
“Dylai’r arwyddion newydd hyn atgoffa gyrwyr i gadw golwg ar eu cyflymder a pheidio torri’r cyfyngiad wrth fynd drwy’r ardal.
“Archebwyd yr arwyddion yn benodol wedi i drigolion sôn wrthym am broblemau cyflymder a diogelwch, felly rydym yn gwybod fod pobl yn yr ardal wedi gweld pobl yn gyrru’n gyflym ar y ffordd ac yn amlwg maent yn awyddus iawn i gadw’r llwybr yn ddiogel”.
“Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol o’u cyflymder bob amser”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydw i’n falch iawn fod yr arwyddion newydd yn eu lle ar Heritage Way, a hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Rogers am drosglwyddo pryderon ein trigolion i’n adran Priffyrdd.
“Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol o’u cyflymder bob amser wrth yrru yn y fwrdeistref sirol ac ni ddylent dorri’r cyfyngiad.
“Bydd arwyddion fel rhain yn atgoffa gyrwyr i gadw at y cyfyngiad ac i yrru’n ofalus.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI