Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut mae Wrecsam yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sut mae Wrecsam yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill?
Y cyngor

Sut mae Wrecsam yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill?

Diweddarwyd diwethaf: Medi 14, 2017 11:27 am
Rhannu
Darllen 3 funud
New Horizons
RHANNU

Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar o’r enw “Perfformiad Cymharol Cymru Gyfan ar gyfer 2016 – 17” sy’n rhoi gwybodaeth am ba mor dda mae cynghorau yng Nghymru wedi perfformio.

Mae’r adroddiad yn dilyn ystod o ddangosyddion y cytunwyd arnynt yn genedlaethol sydd wedi eu rhoi i Lywodraeth Cymru gan yr holl awdurdodau lleol. Mae Uned Ddata Cymru wedyn yn coladu ac yn dadansoddi’r wybodaeth ac yn dwyn yr adroddiad ynghyd, yna mae hwn yn dangos sut mae pob awdurdod wedi perfformio o’i gymharu ag eraill.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU

“Y gorau yng Nghymru mewn pedwar maes”

Rydym wedi cynnal neu wella ein perfformiad o ran 19 allan o 26 dangosydd ac wedi dod i frig y rhestr (neu i’r brig ar y cyd ag awdurdod arall) mewn pedwar maes:

• Canran y sefydliadau bwyd sy’n cydymffurfio’n fras â safonau hylendid bwyd

• Canran yr ymweliadau â chanolfannau chwaraeon a hamdden yr awdurdod yn ystod y flwyddyn, lle bydd yr ymwelwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol

• Canran isaf yr holl ddisgyblion yng ngofal yr Awdurdod Lleol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, sy’n gadael addysg orfodol, hyfforddiant neu ddysgu sy’n seiliedig ar waith heb gymhwyster allanol cymeradwy

• Canran y datganiadau angen addysgol arbennig terfynol a gyhoeddwyd o fewn 26 wythnos.

Ar y cyfan mae Wrecsam yn cymharu’n dda â phob Awdurdod Lleol Cymreig arall a chroesawodd y Cynghorydd Mark Pritchard yr adroddiad gan ddweud:
“Yn ystod y cyfnodau heriol ariannol yma mae’n braf gweld ein bod yn parhau i wella mewn meysydd allweddol ac rydw i’n falch o weld ein bod yn rhif un mewn 4 maes gwahanol. Rhaid i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau fodd bynnag, a rhaid i ni barhau i weithio a gwella a rhoi’r gwasanaeth gorau posib i’n trigolion. Hoffwn ddiolch i’r holl staff am eu hymrwymiad i’n safon o wasanaeth.”
Nid yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw ddata Gwasanaethau Cymdeithasol gan y bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Arwyddion newydd ar y brif ffordd i’r pentref Arwyddion newydd ar y brif ffordd i’r pentref
Erthygl nesaf Dog Pam dylai fy nghi fod ar dennyn?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English