Roedd golygfeydd hanesyddol yn Neuadd y Dref heddiw pan arwyddodd Ei Ardderchogrwydd, Ysgrifennydd Gwladol Cymunedau Portiwgaleg, Mr Jośe Luís Carneiro, Brotocol Cydweithredu gyda Chyngor Wrecsam.
Dyma’r tro cyntaf i’r DU arwyddo Protocol o’r math hwn, a’r pumed yn Ewrop.
“Perthynas waith agos”
Mae’r Protocol yn cydnabod y berthynas waith agos rhwng y Cyngor a’r grwpiau Portiwgaleg lleol a’i rôl o ran cyfrannu at les gwladolion Portiwgaleg yn Wrecsam.
Mae’r Protocol yn cydnabod y berthynas waith agos rhwng y Cyngor a’r grwpiau Portiwgaleg lleol a’i rôl o ran cyfrannu at les gwladolion Portiwgaleg yn Wrecsam
Roedd y gwesteion y gwahoddwyd i weld y digwyddiad hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ddau grŵp cymunedol Portiwgaleg yn Wrecsam – Associacao da Cultura Portuguesa Gra Bretanha a Comunidade de Lingua Portuguesa de Wrexham.
Nid oes angen unrhyw gyllid gan y Cyngor ar y Protocol, a bydd yn cydnabod ymrwymiad parhaus y ‘Consulate General of Portugal’ ym Manceinion i’r gymuned Bortiwgaleg yn Wrecsam. Bydd hefyd yn ein helpu i drechu rhagfarn, hyrwyddo cyfle cyfartal a hyrwyddo perthnasau da.
“Wrecsam yn arwain y ffordd”
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a arwyddodd y Protocol ar ran y Cyngor: “Rwyf wrth fy modd bod Wrecsam yn arwain y ffordd yn y DU i sefydlu Protocol Cydweithredu ffurfiol rhwng y Llywodraeth Bortiwgaleg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd, nid yn unig yn cryfhau ein perthynas waith wych gyda’r gymuned Bortiwgaleg leol sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam, ond hefyd gyda’r Llywodraeth Bortiwgaleg”
Dywedodd Ei Ardderchogrwydd, Ysgrifennydd Gwladol Cymunedau Portiwgaleg, Mr Jośe Luís Carneiro “
“Yn y DU fel ym Mhortiwgal, mae cynghorau lleol yn hanfodol wrth groesawu a sicrhau integreiddiad llwyddiannus o ymfudwyr yn y gymuned. Mae hyn yn gweithredu ar nifer o lefelodd, megis cyflogaeth, iaith a diwylliant, datblygiad busnes a gwasanaethau bwrdeistrefol. Trwy hyn, mae’r math yma o Brotocol yn anelu at sicrhau cyd-destun da am gyfaniad, ar bob lefel, dros fwrdeistrefi lle mae yna gymuned Portiwgaleg arwyddocaol, fel yn Wrecsam, gyda gwaith sydd yn cael eu gwerthfawrogi gan awdurdodau lleol.“
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT