Manylion Swydd Wag – Asesydd Gofal Cymdeithasol x 2 (Tîm Un Pwynt Mynediad)
G07 £26,845 – £28,371 y flwyddyn
37 awr yr wythnos – ystyrir y cyfle i rannu swydd
Lleolir y swydd(i) o fewn y Tîm Un Pwynt Mynediad, Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sy’n cynnwys Ymgynghorwyr Cyswllt Cyntaf, Aseswyr Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, Therapydd Galwedigaethol a mynediad i Asiantaethau Trydydd Sector ac wedi’i lleoli yn Adeiladau’r Goron, Stryt Caer, Wrecsam.
Mae ein Tîm Un Pwynt Mynediad yn darparu’r pwynt cyswllt cyntaf y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael gyda Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac mae’r tîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol amrywiol yn darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion Wrecsam. Mae galwad i’r Tîm Un Pwynt Mynediad, naill ai gan breswylwyr neu weithwyr proffesiynol, yn golygu y byddant yn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth o safon. Rydym yn chwilio am aseswyr gofal cymdeithasol llawn cymhelliant i chwarae rhan allweddol yn ein tîm cefnogol a chyfeillgar.
Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â phobl i nodi eu hanghenion, darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a’u cefnogi i gynllunio’n greadigol er mwyn cynyddu eu hannibyniaeth a lleihau eu dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth hirdymor. Bydd hyn yn cynnwys edrych am ddatrysiadau yng nghymuned yr unigolyn, y trydydd sector, timau arbenigol o fewn yr adran ac ein hasiantaethau partner allweddol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer yr unigolyn / y teulu / gofalwyr.
Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm rheoli profiadol ac ystod o weithwyr proffesiynol eraill a bydd gennych hefyd fynediad i gyfleoedd hyfforddiant a datblygu arbenigol gyda chyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog ar gyfer yr ymgeiswyr delfrydol.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau fod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar bob cam o’u bywydau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus Lefel 3 neu gyfwerth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac ymrwymiad i gymwysterau lefel 4 neu gyfwerth o fewn yr amseroedd gofynnol. Mae’r Adran wedi cyflwyno rhaglen ‘Grow Your Own’ yn ddiweddar, sy’n rhoi cyfle i weithwyr weithio tuag at ennill cymhwyster Gwaith Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle yma, edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad llawn ar ein gwefan.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Ebrill.
Asesydd Gofal Cymdeithasol – YMGEISIWCH RWAN!
YMGEISIWCH RWAN!