Os ydych chi wrth eich bodd yn nofio a’ch bod yn gymwys i’w ddysgu i eraill, mae gennym ychydig o swyddi y byddai’n sicr gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae gennym ddwy swydd dros dro i gynnig gwersi nofio i ysgolion ar draws Wrecsam. Mae’r ddwy swydd yn rhan amser (16 awr yr wythnos) ac mae’r oriau y byddech yn eu gweithio’n wych (9.00am-12.00pm)! Mae hefyd gennym nifer o oriau achlysurol ar gael ar draws yr holl byllau yn ardal Wrecsam.
Dyna chi, rydych yn cael y cyfle i ddysgu plant i nofio a gweithio oriau deniadol… felly, os ydych yn gymwys ac eisiau’r swydd werth chweil hon, darllenwch ymlaen…
Bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr feddu ar Gymhwyster Addysgu Nofio Lefel 2 ASA a naill ai Gymhwyster Cenedlaethol Achub Bywyd mewn Pyllau RLSS neu Ddyfarniad Prawf Achub ar gyfer Athrawon RLSS (neu gyfatebol).
Bydd hefyd angen i chi fod yn gyfathrebwr gwych, cael sgiliau trefnu da a bydd gennych lefel uchel o wybodaeth am ddysgu nofio.
Os yw’n swnio fel swydd i chi, cliciwch ar y ddolen isod i weld yr hysbyseb lawn. Cwblhewch y broses ymgeisio rwydd hon ac rydym yn siŵr y gwnewch chi gymryd ato fel hwyaden at ddŵr! Ydach chi’n deall beth sydd genom ni? 😉
Ond brysiwch, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 14 Rhagfyr.
Neu os ydych chi eisiau ychydig mwy o wybodaeth, cysylltwch 01978 297359.
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch