Unwaith eto byddwn yn ymuno ag Awr Ddaear ac yn gofyn i’n staff, busnesau a thrigolion i ddiffodd yr holl oleuadau am 8.30pm ar 30 Mawrth am un awr.
Mae’r digwyddiad byd-eang, a drefnwyd gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) yn gweld miloedd o bobl yn cymryd rhan a’r goleuadau’n cael eu diffodd mewn adeiladau tirnod fel Palas Buckingham, Cestyll Caerdydd a Chaeredin, Tŷ Opera Sydney a Thŵr Eiffel.
Maent hyd yn oed wedi rhoi rhai awgrymiadau am sut y gallwn dreulio’r awr – os nad ydym yn dymuno gwylio’r teledu. Gallech gynnwys teulu a ffrindiau a chael swper yng ngolau gannwyll, chwarae charades yn lle Xbox neu Playstation neu ddiffodd y teledu ac agor hoff lyfr i’w drafod gyda ffrindiau neu ddwedwch stori i’r plant cyn iddynt fynd i’r gwely.
Sut bynnag y byddwch yn dewis treulio’r awr gallwch gael cyngor yn wwf.org.uk/earthhour.
Eleni mae Cronfa Bywyd Gwyllt y byd yn gofyn i bawb addo un peth yn eu bywyd fydd yn helpu i warchod y blaned. Rydym wedi cytuno fel sefydliad y byddwn yn lleihau’r defnydd o blastig ym mhob un o’n ystafelloedd cyfarfod – dim cwpanau, llwyau na phlatiau plastig – efallai nad yw’n ymddangos yn llawer, ond dros gyfnod o ddeuddeg mis gall fod yn dipyn felly rydym yn credu fod hwn yn ddechrau da.
Rydym hefyd yn annog ein hysgolion i fod yn ymwybodol o blastig a gwneud yr hyn y gallant i ddisodli a lleihau’r defnydd mewn ysgolion. Mae’n gweithio hefyd fel y gallwch weld o’r erthygl hon yn gynharach eleni.
Dyma sut mae ysgolion Wrecsam yn cymryd camau bach i achub y blaned (a gallwch chi wneud yr un peth)
“Mwy o eitemau y gellir eu hailddefnyddio”
Mae Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd wedi rhoi nifer o awgrymiadau am sut y gall pawb wneud eu haddewidion eu hunain a rhannu gyda’u teulu, mae yna awgrymiadau defnyddiol iawn fel troi’r peiriant golchi dillad i lawr i 30 gradd neu leihau faint o blastig a brynir o blaid mwy o eitemau y gellir eu hailddefnyddio. Mae yna hefyd rai heriol fel newid y ffordd yr ydym yn bwyta neu drefnu “gwyliau gartref” neu wyliau yn agosach at adref.
“Gwnaethom gadw ein haddewid”
Y llynedd gofynnwyd i ni “wneud addewid” a gwnaethom addo gosod cyfleusterau gwefru ceir trydan yn Byd Dŵr, Tŷ Pawb, Parc Gwledig Tŷ Mawr, Parc Gwledig Dyfroedd Alun a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte. Roedd y cam hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i leihau carbon a hybu defnyddio ynni’n effeithlon ac rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi cadw at ein haddewid! 🙂 🙂
“Mae’n rhaid i ni hefyd chwarae ein rhan”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym bob amser yn falch iawn o gefnogi Awr Ddaear ac rydym yn gwybod bod llawer o’n trigolion yn cymryd rhan hefyd. Mae Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd yn chwarae rhan allweddol i godi ymwybyddiaeth o gyflwr bregus yr amgylchedd ac fel awdurdod lleol mae’n rhaid i ni hefyd chwarae ein rhan. Rwy’n falch ein bod yn lleihau ein defnydd o blastig mewn modd cynaliadwy a bod ein hysgolion yn chwarae eu rhan hefyd. Byddwn yn annog llawer mwy o ysgolion i gymryd rhan a byddwn yn siŵr o’ch hysbysu amdano.”
Cofiwch y dyddiad – Awr Ddaear 8.30 – 9.30pm ar 30 Mawrth.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN