Dyma ichi hanesion gwych o Wrecsam…
Rydyn ni wrth ein boddau’n clywed yr hanesion hyn a’u hadrodd – a gorau po anoddaf eu credu 🙂
Go brin y clywch chi stori mor anhygoel – yn enwedig yn Wrecsam – â’r un am yr annwyl ‘Babs’ a’r gwrol J.G. ‘Daredevil’ Parry Thomas…
Ac mae hi’n wir bob gair!
Felly rhowch eich gwregys amdanoch a byddwch yn barod am daith a hanner… fe fyddwn ni’n mynd fel y gwynt 😉
Babs
Babs yw enw’r car rasio y gwnaeth John Godfrey Parry Thomas o Wrecsam ei ddylunio, ei adeiladu a’i yrru.
Fe fyddai Babs a Parry Thomas yn dod yn enwog yn yr ardal (fe soniwn ni am y rhesymau nes ymlaen). Fe ddechreuwn ni drwy fwrw golwg ar J.G. Parry Thomas a’r hyn a’i hysbrydolodd i greu ateb Wrecsam i Lightning McQueen.
‘Daredevil’
Bu Parry Thomas yn dylunio moduron awyrennau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n deg dweud ei fod ar flaen y gad yn y diwydiant newydd hwn.
Ym 1923 penderfynodd fentro i fyd cyffrous rasio ceir, a bu’n yrrwr rasio proffesiynol yn Brooklands, Swydd Surrey.
Buan iawn y cafodd y llysenw ‘Daredevil’ wrth iddo ddangos ei ddoniau. Ei nod yn y pen draw oedd curo’r record cyflymder ar dir, ond fe fyddai hynny’n dipyn o gamp…
Nid oedd gan y Daredevil gymaint o arian â’r rheiny oedd yn cystadlu ag ef am y record – er clod iddo, llwyddodd i fynd benben â nhw er gwaethaf hynny.
O’i blaid oedd ei ddoniau fel dylunydd, peiriannydd a gyrrwr… roedd ganddo sawl pluen yn ei het.
Dyma Babs yn dod…
Ym 1924 prynodd y Daredevil sbortscar arbennig Higham, gan gredu y gallai fod y car cyflymaf yn y byd.
Prynodd y car o ystâd gyrrwr rasio a laddwyd yn Grand Prix yr Eidal – sy’n dangos inni mor beryglus oedd rasio ceir bryd hynny.
Aeth y Daredevil ati’n ddiymdroi i greu’r car cyflymaf erioed. Fe wnaeth nifer o addasiadau mecanyddol a phaentio’r cerbyd yn wyn.
Wedyn fe roddodd yr enw Babs ar y car, ar ôl ei hoff nith 🙂
Gwneud hanes
Ar Ebrill 27 1926, enillodd y Daredevil a Babs eu lle yn y llyfrau hanes drwy guro’r record cyflymder ar dir, wrth i Babs wibio 169 milltir yr awr ar hyd Traeth Pentywyn yn Sir Gâr… camp aruthrol!
Ond i’r Daredevil, nid da lle gellir gwell…
Wedi treulio noson yn tincran â Babs, dychwelodd y Daredevil i’r traeth fore trannoeth a chyrraedd cyflymder anhygoel o 171mya.
Roedd y gŵr o Wrecsam wedi gwireddu ei freuddwyd 🙂
Ar ras at angau
Roedd camp y Daredevil yn sbardun i’w gystadleuwyr, a oedd ar dân eisiau curo’r record eto…
Ar Chwefror 4 1927, cyrhaeddodd Malcolm Campbell 175mya yn y ‘Bluebird’ enwog – hefyd ar Draeth Pentywyn.
Ac yntau’n awyddus i adennill y record, dychwelodd y Daredevil i Bentywyn unwaith eto. Methodd â gwneud dim am ddeuddydd oherwydd tywydd anffafriol, ond erbyn Mawrth 1 1927 gallai fynd â Babs i’r traeth…
Fe wyddai’r Daredevil ei fod yn gwthio’i hun a Babs i’r terfyn eithaf, ond roedd mor benderfynol fel na fedrai beidio â rhoi cynnig arall ar guro’r record.
Yna, wrth wibio ar hyd y traeth am y chweched tro’r diwrnod hwnnw, bu trychineb… Neidiodd Babs wyneb i waered a throi fel olwyn deirgwaith cyn syrthio yn glec…
Lladdwyd J.G. ‘Daredevil’ Parry Thomas yn y chwalfa.
Dychrynodd y gwylwyr wrth weld y car yn malu’n rhacs, ond fe daerodd llawer ohonynt fod y Daredevil a Babs yn mynd dros 180mya cyn y ddamwain. Ni wnaethpwyd yr un cofnod swyddogol o’r cyflymder.
Gwaddol y Daredevil
Claddwyd Babs o dan dywod Traeth Pentywyn, a chladdwyd y Daredevil mewn mynwent nid nepell o’i hoff drac rasio yn Brooklands.
Ym 1967, daeth y syniad i ben Owen Wyn Owen, peiriannydd ym Mhrifysgol Bangor, i atgyfodi Babs. Ceisiodd ganiatâd i’w thynnu i’r wyneb, ac fe wnaeth hynny ym 1969.
Roedd Owen yn awyddus i adfer Babs fel ei bod bron fel newydd… roedd hi’n broses hirfaith a thrylwyr. Os nad oedd modd trwsio rhai pethau, byddai’n cael rhannau gwreiddiol yn eu lle.
Wedi ambell i dro trwstan ar hyd y ffordd, adnewyddwyd Babs a’i thanio fel o’r blaen.
Mae’n dal i ddenu ymwelwyr i’r Amgueddfa Cyflymder ar Draeth Pentywyn, ac yn seren y sioe mewn amryw ralïau ceir clasurol ledled Prydain.
Daeth Babs i ymweld â thref enedigol ei chreawdwr ar Ebrill 1 2012, pan fu’n sefyll y tu allan i Amgueddfa Wrecsam am chwe awr. Cewch weld lluniau o’r achlysur ar wefan y Cyngor.
Hwyrach nac ydych byth wedi meddwl am recordiau cyflymder tir a Wrecsam gyda’i gilydd o’r blaen, ond fe wnaeth un gŵr arloesol greu’r cysylltiad.
Babs oedd y car a wnaeth alluogi’r Daredevil i wireddu ei freuddwydion mwyaf…
Mae Babs bellach yn eiddo i ymddiriedolaeth a ffurfiwyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cyngor Cymuned Pentywyn a Dr. Geraint Owen (mab y diweddar Owen Wyn Owen).
DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I