Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi ton newydd cyffrous o berfformwyr a chynrychiolwyr ar gyfer gŵyl ryngwladol 2019, a gynhelir yn Wrecsam, Gogledd Cymru rhwng 16 – 18 Mai. Roedd dau gyhoeddiad cyntaf yr ŵyl wedi achosi cynnwrf ddiwedd y llynedd, ac ni fydd y drydedd don yn siomi gyda llawer mwy o berfformiadau anhygoel eraill yn ymuno yn yr ŵyl.
Mae’r drydedd don o berfformiadau byw wedi eu cyhoeddi ar gyfer FOCUS Wales 2019 yn cynnwys….
Cate Le Bon – bydd yr artist Cymraeg yn chwarae sioe fechan arbennig yn Undergun, ddydd Sadwrn 18 Mai, a fydd hefyd yn cael ei recordio gan BBC Radio Wales ar gyfer ei ddarlledu.
Kero Kero Bonito – mae’r triawd electro-pop lliwgar wedi bod yn llenwi sioeau ar draws y byd ers rhyddhau eu halbwm gyntaf Bonito Generation yn 2016. Bydd taith 2019 Kero Kero Bonito yn dro cyntaf iddynt chwarae’n fyw gyda phump aelod yn y band, ac mae disgwyl iddo fod eu taith gorau hyd yma.
Mae uchafbwyntiau eraill ymysg y perfformiadau newydd sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys band pedwar aelod o Seland Newydd, The Beths, sydd wedi bod yn creu argraff gyda’u pop gitâr llawn egni, ac wedi bod yn cefnogi Death Cab For Cutie ar eu taith ar draws y DU ac Ewrop yn 2018. Hefyd wedi’u cyhoeddi mae Accü, LIFE, Lizzy Farrall a Los Blancos, ac yn ymuno â nhw mae perfformiadau rhyngwladol cyffrous, yn cynnwys MNNQNS (Ffrainc), Mart Avi (Estonia), Miss Eaves (UDA), Elizabete Balčus (Latfia), :papercutz (Portiwgal), AA55A (Corea) a llawer mwy ar gyfer FOCUS Wales 2019..
“Y bandiau poblogaidd newydd o amgylch y byd”
Dywedodd un o drefnwyr yr ŵyl, Andy Jones “Rydym wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn dod o hyd i’r bandiau poblogaidd newydd o amgylch y byd, i’w gwahodd i Gymru ym mis Mai. Rwy’n gyffrous iawn i gyhoeddi’r artistiaid newydd hyn i’n rhestr o berfformwyr, ac mae llawer mwy i’w gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf”
I weld y rhestr lawn o’r artistiaid a gyhoeddwyd hyd yma, ymwelwch â www.focuswales.com/
Bellach, FOCUS Wales yw digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddorol yng Nghymru, gyda thri diwrnod o baneli, sgyrsiau a chyngor am y diwydiant, bydd yna dros 250 o gynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant cerddorol yn dod i Wrecsam o bedwar ban byd. Y siaradwyr diweddaraf i gael eu cyhoeddi: Ruud Berends (Eurosonic, Yr Iseldiroedd), Abbie McCarthy (BBC Music Introducing), Karma Bertelsen (Kilimanjaro Live Ltd), Lio Kanine (Kanine Records, UDA), Johnny Marlow BreakOut West, Canada), Ed Lilo (Gŵyl Latitude), a Michael Lambert (Wide Days, Yr Alban).
Cadwch lygad allan am fwy o newyddion ar www.focuswales.com ac ar ein cyfryngau cymdeithasol @focuswales.
Cynhelir FOCUS Wales 2019 ar 16, 17 ac 18 Mai mewn sawl lleoliad yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Mae bandiau garddwrn mynediad 3 diwrnod llawn ar gyfer holl ddigwyddiadau FOCUS Wales ar gael nawr o www.focuswales.com/tickets am bris cychwynnol gostyngol o £35 yr un. Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam.
FOCUS Wales 2019 takes places 16th, 17th, 18th May across various venues in Wrexham, North Wales. Full 3 day wristbands for admission to all FOCUS Wales events are available now at www.focuswales.com/hafan/tickets standard festival tickets start at an early bird price of £35 each. FOCUS Wales is supported by Arts Council of Wales, Welsh Government and Wrexham Council.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR