(Llun: Anthony Owens, Cludwr Faner Cymdeithas Cyn-Filwyr Normandi; Mel Salisbury, Swyddog Cymorth Partneriaethau; Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog)
Bydd baner sy’n cynrychioli cyn-filwyr glaniad D-Day ar gael a chadw cyn bo hir.
Cafodd baner Cymdeithas Cyn-Filwyr Normandi Wrecsam ei roi gan Anthony Owens, cludwr y faner, i Amgueddfa Wrecsam yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r faner yn un o bedair baner – ynghyd â’r rheiny ar gyfer Cymdeithasau’r Wythfed Byddin, Seren Byrma a Chyn-Filwyr Korea – a oedd yn destun ymgyrch godi arian lwyddiannus yn 2016 i sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod a’u harddangos yn barhaol yn Neuadd y Dref.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Bydd y faner rŵan yn mynd i Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion at ddibenion cadwraeth, mowntio a fframio, yn barod ar gyfer ei harddangos yn Siambr y Cyngor.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Wrecsam: “Rydw i’n falch iawn bod Cymdeithas Cyn-Filwyr Normandi wedi cyflwyno eu baner ar gyfer cadwraeth. Mae hyn yn golygu bod y pedair baner yn cael eu diogelu, ac yn cael y lle blaenaf yn Neuadd y Dref.
“Hoffaf ddiolch i gynrychiolwyr y cymdeithasau cyn-filwyr am weithio efo ni drwy gydol y broses hon, ac am ymddiried ynom ni i edrych ar ôl y baneri – mae gan y baneri arwyddocâd pwysig iawn i’r cymdeithasau a phobl Wrecsam, ac mae eu hadfer a’u cyflwyno o’r newydd yn mynd i wneud chwarae teg â nhw.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU