Mae’r nifer uchaf erioed o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru wedi cyrraedd y safonau uchel sydd eu hangen i chwifio’r Faner Werdd.
Heddiw, datgelodd yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus y 315 o safleoedd sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sydd o fri rhyngwladol.
Bydd y Baneri yn chwifio yn Nyfroedd Alun, Parc Acton, Tŷ Mawr, Acton, Bellevue a Mynwent Wrecsam i gydnabod eu hymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.
Gallwch chi weld rhestr lawn o barciau Wrecsam ochr yn ochr â fideos sy’n rhoi cipolwg i chi o’r hyn sydd gan natur i’w gynnig ar draws y fwrdeistref sirol – o fynd am dro neu redeg i feicio a phicnic gyda’r teulu, mae parciau gwledig Wrecsam yn berffaith ar gyfer y cyfan!
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Terry Evans, “Mae hyn yn newyddion gwych a rhaid diolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr y mae eu gwaith caled wedi’i adlewyrchu yn ansawdd ein mannau gwyrdd.”
Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.
Yng Nghymru, mae cynllun y Faner Werdd dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydyn ni wrth ein bodd o weld bod 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws nodedig y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.
“Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith goreuon y byd yn gyflawniad enfawr – Llongyfarchiadau!”