Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 22, 2025 3:57 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
RHANNU

Mae’r nifer uchaf erioed o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru wedi cyrraedd y safonau uchel sydd eu hangen i chwifio’r Faner Werdd.

Heddiw, datgelodd yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus y 315 o safleoedd sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sydd o fri rhyngwladol. 

Bydd y Baneri yn chwifio yn Nyfroedd Alun, Parc Acton, Tŷ Mawr, Acton, Bellevue a Mynwent Wrecsam i gydnabod eu hymdrechion amgylcheddol, cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.

Gallwch chi weld rhestr lawn o barciau Wrecsam ochr yn ochr â fideos sy’n rhoi cipolwg i chi o’r hyn sydd gan natur i’w gynnig ar draws y fwrdeistref sirol – o fynd am dro neu redeg i feicio a phicnic gyda’r teulu, mae parciau gwledig Wrecsam yn berffaith ar gyfer y cyfan!

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Terry Evans, “Mae hyn yn newyddion gwych a rhaid diolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr y mae eu gwaith caled wedi’i adlewyrchu yn ansawdd ein mannau gwyrdd.”

Bellach yn ei thrydedd ddegawd, mae Gwobr y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.

Yng Nghymru, mae cynllun y Faner Werdd dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus:   

“Rydyn ni wrth ein bodd o weld bod 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws nodedig y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.

“Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith goreuon y byd yn gyflawniad enfawr – Llongyfarchiadau!”

Rhannu
Erthygl flaenorol Clwb Celf Haf i bobl ifainc 11 i 16 Clwb Celf Haf i bobl ifainc 11 i 16
Erthygl nesaf Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English