Rydym yn falch o ddweud bod 5 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu Statws Baner Werdd – nod rhyngwladol parc neu fan gwyrdd o safon.
Mae parciau Mynwent Wrecsam, Tŷ Mawr, Dyfroedd Alun, Y Parciau a Phonciau wedi llwyddo i ennill eu gwobr statws Baner Werdd.
Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel ac yn ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol yn gwirfoddoli eu hamser i feirniadu safleoedd yr ymgeiswyr yn ôl wyth maen prawf pendant, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chynnwys y gymuned.
Mae Baneri Gwyrdd yn arwydd o fannau gwyrdd o safon uchel
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n bleser clywed y newyddion yma a rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ansawdd ein mannau gwyrdd yn parhau i fod o safon uchel.
“Mae ein parciau a’n mannau agored yn darparu ardaloedd gwerthfawr o harddwch naturiol ac rydym wedi ymrwymo i’w diogelu a’u cynnal er mwyn sicrhau y gallant barhau i gael eu defnyddio gan bobl o bob oed i fwynhau a gwerthfawrogi’r amgylchedd hardd sydd gennym ar garreg ein drws yn Wrecsam.”
Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer elusen Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym yn hynod falch o weld 291 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws mawreddog y Faner Werdd, sy’n destament i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.
“Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith y gorau yn y byd yn gamp enfawr – Llongyfarchiadau!”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy/
Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am leoedd newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus am fwy o wybodaeth.
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb