Rydym yn falch o ddweud bod 8 ardal yn Wrecsam wedi cadw eu statws Baner Werdd – y marc ansawdd rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon.
Bydd Parc Acton, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, y Parciau, Parc Ponciau, Parc Gwledig Tŷ Mawr a Mynwent Wrecsam, ynghyd ag enillwyr y wobr gymunedol, Maes y Pant a Phlas Pentwyn, i gyd yn chwifio’u baneri am y 12 mis nesaf.
Mae baneri’n cael eu rhoi i ardaloedd sydd â chyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac sydd wedi ymrwymo i ddarparu mannau gwyrdd o safon.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Unwaith eto, mae’n bleser clywed y newydd hwn, ac mae’n rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein mannau gwyrdd yn parhau i fod o safon uchel.
“Mae’n newyddion arbennig o dda yr wythnos hon gan ein bod newydd gytuno y bydd deg o’n parciau gwledig yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o dan y cynllun Mannau Agored Gwyrdd a weithredir gan Feysydd Chwarae Cymru.
“Dros y misoedd diwethaf, mae ein parciau a’n mannau agored wedi bod yn lleoedd hynod werthfawr, ac rydym wedi ymrwymo i’w diogelu a’u cynnal a’u cadw er mwyn sicrhau y gallant barhau i gael eu defnyddio at ddibenion amgylcheddol a lles.”
Mae 248 o barciau a mannau gwyrdd ar draws y wlad wedi derbyn anrhydedd Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd – o barciau gwledig a gerddi ffurfiol i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.
Mae rhaglen Gwobr y Faner Werdd yn cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bu arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol yn rhoi o’u hamser ddechrau’r hydref i feirniadu’r safleoedd ar wyth maen prawf pendant, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned.
Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus, “Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o safon i’n cymunedau ni. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch y staff a’r gwirfoddolwyr ar eu gwaith caled yn cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”
Mae Cadwch Gymru’n Daclus bob amser yn chwilio am leoedd newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech roi eich parc neu eich man gwyrdd chi ar y map, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i gael rhagor o wybodaeth.
Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL