Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rydym yn chwilio am Bennaeth ar gyfer Ysgol Bodhyfryd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Rydym yn chwilio am Bennaeth ar gyfer Ysgol Bodhyfryd
Busnes ac addysgY cyngor

Rydym yn chwilio am Bennaeth ar gyfer Ysgol Bodhyfryd

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 14, 2021 4:01 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ysgol Bodhyfryd
RHANNU

Rydym yn chwilio am Bennaeth ymroddedig a brwdfrydig ar gyfer Ysgol Bodhyfryd, sy’n ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fawr ar gyrion canol tref Wrecsam.

Mae’r ysgol wedi hen ennill ei phlwyf yn yr ardal leol a dyma’r ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i gael ei hagor yn Wrecsam.

Allech chi fod yn bennaeth ein hysgol cyfrwng Cymraeg newydd?

Rydym yn chwilio am Bennaeth sydd:

  • yn gallu ysgogi ac ennyn hyder yng nghymuned yr ysgol, gan ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog;
  • yn ymarferydd rhagorol gyda llwyddiant blaenorol o godi safonau a gweledigaeth glir o addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bawb;
  • yn frwdfrydig ac wedi ymrwymo i ddatblygu potensial llawn pob plentyn drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol;
  • yn gallu cynnig profiad hapus a chadarnhaol i gymuned gyfan yr ysgol.

Os yw hyn yn swnio fel cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa, ewch i ddysgu mwy am y swydd ac am sut i wneud cais yn y Gymraeg yma.

Meddai Liz Edwards, Cadeirydd y Llywodraethwyr, “Mae’r ysgol yn edrych ymlaen at gael penodi pennaeth ymroddedig a brwdfrydig i’n harwain ni wrth roi’r cwricwlwm newydd ar waith ac i ddatblygu ar lwyddiannau’r gorffennol.

“Mae’r swydd wedi bod yn wag ers peth amser yn sgil pandemig Covid-19, ac rydym bellach yn edrych ymlaen at gael ei llenwi er mwyn sicrhau parhad ar gyfer yr ysgol wrth symud ymlaen.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol Addysg, “Mae yna alw mawr am addysg cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam ac nid yw Ysgol Bodhyfryd yn eithriad. Rydym wedi ymroi i sicrhau bod yr ysgol yn cael ei harwain gan bennaeth angerddol a brwdfrydig all ymrwymo i’r staff, y disgyblion a’r cymunedau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt.

“Gall yr ymgeisydd llwyddiannus edrych ymlaen at arwain a chydweithio â staff addysgu llawn cymhelliant yn y dyfodol.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Tachwedd 2021.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon yn ein hysgol, felly i gael rhagor o wybodaeth am y swydd ac i wneud cais yn y Gymraeg, ewch i: https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/?language=cy

Rhannu
Erthygl flaenorol Green Flag Baneri Gwyrdd yn Parhau i Gyhwfan ar draws Wrecsam
Erthygl nesaf Trefnwch eich Pàs Covid os ydych yn mynd allan Nodyn briffio Covid-19 – trefnwch eich Pàs Covid os ydych yn mynd allan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English