Os ydych chi’n rhedeg busnes yn y sector twristiaeth a lletygarwch yn Wrecsam, mae modd i chi wneud cais am nod swyddogol “Barod Amdani”. Bydd y nod yn dangos i’ch ymwelwyr eich bod wedi gweithio’n galed i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth ac Iechyd y Cyhoedd a bod gennych broses ar waith i sicrhau bod eich busnes yn cael ei gadw’n lân a bod modd helpu â chadw pellter cymdeithasol.
Gallwch wneud cais nawr am nod “Barod Amdani” ac ar ôl cwblhau’r cais yn llwyddiannus, anfonir dolen ddiogel atoch i lawrlwytho tystysgrif, nod a phecyn gwaith gyda chamau ymarferol i roi gwybod i gwsmeriaid eich bod yn “Barod Amdani”.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Mae llawer o fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar draws Wrecsam sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod gan eu hymwelwyr hyder i ddychwelyd ac i ymweld â nhw’n ddiogel. Bydd y nod hwn yn arwydd eu bod wedi rhoi popeth ar waith i sicrhau diogelwch eu staff a’r cyhoedd a byddwn yn annog cynifer ag sy’n bosibl ohonynt i wneud cais fel bod modd iddynt arddangos nod “Barod Amdani” fel sicrwydd i gwsmeriaid ar draws Wrecsam.”
Mae llenwi’r cais yn broses gyflym ac mae rhagor o wybodaeth ar wefan Visit Britain Good to Go.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN