Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth
Y cyngor

Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Tŷ Pawb ar 8 Mawrth

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 4:46 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
International Women's Day
RHANNU

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar hyd a lled Wrecsam i anrhydeddu ac amlygu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac rydym yn chwilio am fwy o grwpiau, busnesau neu sefydliadau i ddod yn rhan o hyn.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Bwriad y digwyddiad yw dathlu’r holl waith y mae’r cynllun Strydoedd Mwy Diogel wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal â dangos yr holl waith da a gaiff ei wneud gan gwmnïau lleol, sefydliadau ac elusennau i gefnogi a grymuso merched yn Wrecsam.

Caiff ei gynnal ddydd Mercher 8 Mawrth yn Tŷ Pawb rhwng 10am a 3pm.

Ar y diwrnod fe fydd yna lawer o weithgareddau a chynigion yn ogystal â stondinau ac adloniant ond rydym yn chwilio am fwy o stondinwyr hyd yn oed i ddod ynghyd i nodi’r achlysur.

Os hoffech gymryd rhan gan ddathlu a dangos eich sefydliad neu eich maes gwaith anfonwch e-bost at communitysafety@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Corfforaethol, “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddigwyddiad byd-eang sy’n hyrwyddo llwyddiannau merched, mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso.

“Rydym yn awyddus i sicrhau fod cynifer o sefydliadau â phosibl yn Wrecsam yn cael eu cynrychioli felly i sicrhau eich bod yno cysylltwch gan ddefnyddio’r manylion uchod.”

Mae’r isod eisoes wedi eu cadarnhau ar gyfer y digwyddiad:

Parallel Security  – Recriwtio merched i fynd i farchnad yr Economi Fin Nos

Y Cynllun Lleoedd Diogel – Codi ymwybyddiaeth ynglŷn â Lleoedd Diogel Cofrestredig yn Wrecsam

Tîm Heddlu Lleol Heddlu Gogledd Cymru – Diogelwch Cymunedol a’r hyn a wnaed i wella diogelwch merched yn Wrecsam, yn enwedig yn ystod oriau’r nos.

Moneypenny – Cyfleoedd recriwtio i ferched.

Coleg Milwrol Paratoadol Wrecsam – Cyfleoedd ar gael i hyfforddi ar gyfer mynd i’r gwasanaethau milwrol.

Cerrig Camu – Gwasanaeth cwnsela proffesiynol i oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn eu plentyndod

RASAC – Cyngor a chymorth ar gael gan Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru a fydd hefyd â stondin Iechyd Rhywiol/Cynllunio teulu.

DASU – Uned Diogelwch Cam-drin Domestig

Y Tîm Cydlyniant – Lluniau proffil o grŵp amrywiol o ferched sy’n angerddol ynglŷn â dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan amlygu’r gwaith gwych maent yn ei wneud yn eu cymunedau lleol.

Dechrau’n Deg Cyngor – a chefnogaeth cyn geni/Mamolaeth ar gael yn genedlaethol a lleol.

Pobl Ifanc Egnïol – Heriau sboncio cyflym gyda gwobrau

Freedom Leisure – Sesiwn Zumba a chynnig o docyn 7 diwrnod rhad ac am ddim i’r holl Ganolfannau Hamdden a ffi cofrestru ar gyfer aelodaeth am ddim i ferched.

Strydoedd Mwy Diogel – Cewch wybodaeth am y cynllun Braf Bob Nos sy’n cydnabod arfer da yn y diwydiant trwyddedu a Hafan y Dref, y Ganolfan Les, sy’n agor ar nosweithiau prysur ac yn cynnig lle diogel i’ch cadw rhag unrhyw niwed.

Ysgolion Iach – Fe fydd yna nwyddau mislif rhad ac am ddim ar gael i ferched a gwybodaeth ynglŷn â’r cynllun Ysgolion Iach.

Coleg Cambria – Cewch wybod am yr holl gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn y coleg yn Wrecsam sydd wedi ennill gwobrau.

Adloniant – Cerddoriaeth a Barddoniaeth gan Natasha Borton

Alf Jones

BAWSO

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Central heating thermostat Gwnewch gais am £200 o Gymorth Tanwydd y Gaeaf cyn diwedd mis Chwefror
Erthygl nesaf Hyfforddiant AM DDIM i ddod yn athro/athrawes nofio – yna, hyd at £16 yr awr Hyfforddiant AM DDIM i ddod yn athro/athrawes nofio – yna, hyd at £16 yr awr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English