Mae This is Wrexham yn cynnig cerdyn newydd gwych sy’n eich galluogi i gefnogi twristiaeth leol a sydd hefyd yn caniatáu i chi gael cyfleoedd arbennig i arbed arian yn rhai o’r lleoedd gorau yn sir i aros, bwyta, siopa ac ymweld!
Mae’r cardiau ar gael i’w prynu am £10.00 yn unig a gellir eu defnyddio mewn lleoedd fel Erddig, Castell y Waun, y Fat Boar, Amgueddfa Wrecsam, y Ramada Plaza a Gwesty a Bwyty’r Lemon Tree i enwi dim ond rhai.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“helpwch ni i hyfforddi a chefnogi gweithwyr newydd mewn twristiaeth leol”
Yn ystod lansiad y cerdyn dywedodd Cadeirydd This is Wrexham, Peter McGivern:
“Mae bwriad lansio ein cerdyn newydd yn ddeublyg. Yn gyntaf mae’n darparu ffordd o wobrwyo’r rhai sydd â’r cerdyn gyda gostyngiadau arbennig mewn gwestai gwych, bwytai ac atyniadau.
“Hefyd, dylai ymwelwyr wybod fod y £10 y maent yn ei fuddsoddi yn sicrhau fod gan ein tîm y cyllid i barhau i gefnogi ein busnesau twristiaeth gan gefnogi gwaith tîm twristiaeth y Cyngor er mwyn gwneud Wrecsam yn lle hyd yn oed gwell ar gyfer ymwelwyr! Er enghraifft, bydd peth arian a gynhyrchir yn ein helpu i hyfforddi a chefnogi gweithwyr newydd mewn twristiaeth leol fel y gallant ddod yn llysgenhadon balch dros Wrecsam.”
“Gwaith arloesol gyda’n sector twristiaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:
““Mae hwn yn gynllun rhagorol ac yn cefnogi ein sector twristaidd tra’n rhoi buddion gwych i chi ar yr un pryd. O ostyngiadau ar ystafelloedd mewn gwestai i ostyngiadau mewn bwytai a siopau lleol, mae’n sicr werth y buddsoddiad cymharol fach o £10.00. Mae’r tîm yma yn Wrecsam i’w llongyfarch am eu gwaith arloesol gyda’n sector twristiaeth sydd nid yn unig o fudd i ymwelwyr i’r ardal ond hefyd chi, ein trigolion lleol.””
Ydych chi am ganfod mwy am y cerdyn a lle i’w gael? Cewch wybodaeth yma
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI