Erthygl gwestai gan SWS Wrexham
Mae grŵp cyfeillgarwch sydd wedi’i gynnal gan bobl leol ag anableddau yn mynd o nerth i nerth – ac mae’n chwilio am aelodau newydd i gymryd rhan!
Mae Canolbwynt Cyfeillgarwch Wrecsam yn cyfarfod bob dydd Mercher rhwng 12pm a 3pm yn Yellow and Blue yn Nôl yr Eryrod.
Mae’r canolbwynt yn lle gwych i wneud ffrindiau newydd, cael sgwrs a phaned, a mwynhau llawer o weithgareddau difyr – yn amrywio o fowlio dan do a thripiau i’r sinema, i wylio gemau pêl-droed a mynd i’r dafarn!
Dywedodd Peter, aelod o’r grŵp: “Os hoffech chi ymuno â ni, dewch i un o’n sesiynau cwrdd wythnosol yn Yellow and Blue. Rydym ni’n grŵp cyfeillgar a bydd croeso mawr i chi.
“Rydym ni’n cael llawer o hwyl ac mae ein sesiynau cwrdd ar ddydd Mercher yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd. Os oes angen cefnogaeth arnoch chi, dewch â rhywun gyda chi.”
Dilynwch y Canolbwynt ar Facebook
Gallwch chi hefyd ddilyn y Canolbwynt Cyfeillgarwch ar Facebook, lle mae aelodau’n rhannu llawer o wybodaeth am bethau i’w gwneud a lleoedd i fynd iddynt.
Mae’r Canolbwynt yn cael ei reoli gan Safonau Gwasanaethau Wrecsam – grŵp o breswylwyr sydd â phrofiad go iawn o anabledd neu salwch.
Maen nhw’n helpu gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd yn Wrecsam i roi’r cymorth cywir i bobl ag anableddau, heb gymryd eu hanibyniaeth oddi wrthynt.
Sesiynau galw heibio Technoleg
Mae’r grŵp hefyd yn cynnal sesiwn dechnoleg wythnosol i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael y gorau o’r rhyngrwyd.
Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Iau rhwng 1pm a 3pm yn y Canolbwynt Lles (Adeiladau’r Goron) ar Stryt Caer yn Wrecsam.
Nid oes angen gwneud apwyntiad – galwch heibio i gael sgwrs.
Dywedodd Kelly, aelod Safonau Gwasanaethau Wrecsam: “Gallwn ni eich helpu chi i fynd i’r afael â’ch ffôn neu lechen, tynnu sylw at apiau defnyddiol a dod o hyd i’r hyfforddiant cywir i chi.
“Gallwn ni hefyd ddangos llawer o dechnoleg arall i chi a all helpu â byw o ddydd i ddydd – o glychau ac oriorau clyfar i bennau sy’n gallu eich helpu chi i ddarllen testun ar sgrîn.
“Galwch heibio i’n gweld ni ddydd Iau ac fe wnawn ni geisio eich helpu chi.”