Wrth i ni nesáu at dymor y Nadolig, rydym yn gwahodd pawb i addurno eu cartrefi a chymryd rhan mewn digwyddiad Goleuo Wrecsam ledled y sir i gymryd lle’r dathliadau cyfarwydd sydd fel arfer yn digwydd wrth gynnau goleuadau Nadolig.
Rydym yn gweithio gyda Materion Wrecsam i weld Wrecsam ar hyn a bydd y goleuadau’n cael eu cynnau am 7pm ddydd Iau, 19 Tachwedd ac yna bydd modd rhannu hyn gan ddefnyddio’r hashnod #GoleuoWrecsam fel y gall pawb eu gweld.
Gallan nhw fod yn unrhyw oleuadau ond peidiwch â defnyddio canhwyllau gan y gall y rhain fod yn berygl yn enwedig mewn ffenestri.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
O 19 Tachwedd, gall ymwelwyr â chanol y dref fanteisio ar siopa yn hwyr yn y nos
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae’n bwysicach nac erioed o’r blaen eleni i gefnogi ein masnachwyr lleol annibynnol. Bydd y dref yn edrych yn Nadoligaidd gyda’r goleuadau wedi eu cynnau a choeden Nadolig enfawr a gobeithio y byddwch yn eu mwynhau wrth ymweld â chanol y dref i siopa. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd hyd yma ond rydym yn edrych ymlaen am Nadolig llwyddiannus a diogel yng nghanol y dref.
Dywedodd trefnydd Materion Wrecsam, Bobbi Cockcroft: “Mae’n ffordd dda i ddod â phobl at ei gilydd mewn ffordd dorfol, ond diogel, i gadw ysbryd y Nadolig i fynd. I atgoffa pobl fod y Nadolig yn dal yma, a’n bod ni’n dal yma yn Wrecsam.”
“Roeddem ni’n meddwl y byddai’n wych i annog pobl i wneud hynny, dim ots pa mor fawr neu fach. Gall fod yn un neu ddau o oleuadau yn y ffenestr neu rywbeth ar flaen eich tŷ neu yn eich gardd, unrhyw gyfraniad bychan rydych yn dymuno ei wneud er mwyn gwneud pethau’n fwy pleserus wrth i ni dreulio mwy o amser yn ein cartrefi.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG