Mae ein Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ddydd Mawrth ac rydym wedi cael cipolwg ar yr hyn a gaiff ei drafod y mis hwn.
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun y Cyngor ar gyfer 2020/21 a ddylai ddechrau ar 12 Mehefin. Mae’r Aelodau eisoes wedi cymeradwyo chwe blaenoriaeth wrth symud ymlaen, sef:
- Datblygu’r economi
- Gwella’r amgylchedd
- Gwella addysg uwchradd
- Hyrwyddo iechyd a lles
- Sicrhau bod pawb yn ddiogel
- Sicrhau cyngor modern a chadarn
Gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte ar gyfer 2019-2029, yn ôl argymhelliad Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO), a roddodd statws Safle Treftadaeth y Byd i’r safle yn 2009.
“Atgyfnerthu’r weledigaeth ar gyfer y Safle Treftadaeth y Byd”
Mae’r Cynllun Rheoli yn rhoi crynodeb o’r rhesymau dros dderbyn y statws, ynghyd â’r werth cyffredinol eithriadol, arwyddocâd diwylliannol, priodoleddau, dilysrwydd ac uniondeb. Mae cynllun gweithredu hefyd, sy’n nodi’r sefydliadau arweiniol, terfynau amser ar gyfer darparu ac yn nodi’r broses fonitro.
Mae’r cynllun yn atgyfnerthu’r weledigaeth ar gyfer y Safle Treftadaeth y Byd, sef: “Ysbrydoli pobl i ddathlu, mwynhau a gwerthfawrogi Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a’i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ymhellach i lawr y rhaglen, bydd yr aelodau yn edrych ar Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg, a gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo penodiad aelodau i amryw o bwyllgorau, is-bwyllgorau, paneli a gweithgorau.
Os hoffech ddarllen y rhaglen yn ei chyfanrwydd, gallwch wneud hynny yma.
Cofiwch y dyddiad: 11 Mehefin am 10am yn Neuadd y Dref. Croesawir aelodau o’r cyhoedd i fynychu.
Caiff y cyfarfod ei weddarlledu hefyd, a gallwch wylio yn fyw yma.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN