Mae agenda Bwrdd Gweithredol mis Gorffennaf ar-lein rŵan ac mae eitemau diddorol angen eu cymeradwyo.
I ddechrau, mae’r Adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Blynyddol sydd yn adolygu perfformiad gofal cymdeithasol oedolion a phlant ac yn rhoi diweddariad ar y blaenoriaethau gwella ar gyfer 2019/20. Mae enghreifftiau gwych o sut mae eu gwaith yn gwella bywydau pobl ar draws y fwrdeistref sirol ac yn werth ei ddarllen os oes gennych amser.
Yn ail mae’r Prif Gynllun Coridor Ffordd yr Wyddgrug cyffrous sydd yn gosod y weledigaeth ar gyfer datblygiad pellach o’r Cae Ras a’r ardaloedd cyfagos. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma.
Nesaf bydd adroddiad am Amgueddfa Pêl-droed Cymru yn dilyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru y dylai Amgueddfa Pêl-droed Cymru gael ei leoli yn Amgueddfa Wrecsam. Mae’r adroddiad yn gofyn i aelodau edrych ar gynllun i ddylunio estyniad sydd yn parchu’r adeilad presennol. Os bydd y cyfan yn cael ei wireddu bydd disgwyl cyfanswm ymwelwyr o tua 80,000 y flwyddyn. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma.
Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad i gynyddu niferoedd disgyblion yn Ysgol Gynradd Lôn Barcas yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd hefyd a gofynnir iddyn nhw gymeradwyo’r estyniad i’r adeilad presennol er mwyn gallu cynnig lle i 105 o ddisgyblion ychwanegol. Y flwyddyn gyntaf o ran cynyddu fydd Medi 2020 ar gyfer dosbarthiadau Meithrin a Derbyn.
Yn olaf gofynnir i aelodau gymeradwyo cynlluniau i fynd i’r afael â’r broblem o eiddo gwag hirdymor ledled Wrecsam trwy ddefnyddio gorfodaeth a chymorth. Gallwch ddarllen mwy am hynny yma.
Mae’r cyfarfod ar agor i’r cyhoedd ac yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth, 9 Gorffennaf am 10am yn Neuadd Y Dref. Bydd yn cael ei weddarlledu hefyd a gallwch ddarganfod mwy am hynny yma. Gallwch edrych ar y rhaglen lawn yma.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN