Oeddet ti’n gwybod….
Lansiodd George Bassett & Co., un o gynhyrchwyr melysion hynaf Prydain, eu fersiwn eu hunain o Jelly Babies, a elwir yn ‘Peace Babies’, Babanod Heddwch ganrif yn ol i ddathlu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd y melysion eu dyfeisio yn gyntaf yn 1864 gan ddyn o Awstria yn gweithio yn Sir Gaerhirfryn. Roedd y Babanod Heddwch yn boblogaidd rhwng y 2 ryfel byd ond daeth y cynhyrchiad i ben yn yr Ail Ryfel Byd oherwydd dogni. Ail-ymddangosodd y Babanod Jeli yn y jariau hen-ffasiwn hynny yn 1953 gyda diwedd y dogni melys.
Nawr i goffau canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Maynards Bassetts wedi creu pecyn arbennig o Fabanod Heddwch sydd ar gael yn Tesco. Bydd y pecynnau’n codi arian ar gyfer elusen i gynorthwyo’r cyn-filwyr Help for Heroes.
Byddem yn darparu Babanod Heddwch at y Gwasanaeth Coffa Blynyddol ar Dachwedd 11. Gallwch ddarllen fwy ynglŷn â’r gwasanaeth yma
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]