Ydych chi eisiau gwybod beth mae eich plentyn yn ei gael i ginio?
Pa un ai yw eich plentyn yn yr ysgol gynradd neu uwchradd, mae bob amser yn braf gwybod beth sy’n cael ei goginio yng nghegin yr ysgol, felly beth am danysgrifio i negeseuon e-bost gwasanaeth cinio ysgol Cyngor Wrecsam trwy glicio yma.
Mae tanysgrifio yn golygu y byddwch yn cael gwybod beth sydd ar y fwydlen bob wythnos, yn ogystal â beth sy’n cael ei gynnig ar ddiwrnodau thema arbennig fel Dydd Gŵyl Dewi neu Noson Tân Gwyllt.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Pam Dewis Cinio Ysgol ar gyfer eich Plentyn?
- Prydau maethlon wedi’u paratoi’n ffres, gan ddefnyddio cynhwysion syml ac iach
- Staff cymwys ac wedi’u hyfforddi sy’n gofalu am eich plant ac yn gwneud pob ymdrech i annog eich plentyn i ddewis pryd iach.
- Bwydlen o dair wythnos, gyda dewis eang o brydau.
- Bwydlenni sy’n cydymffurfio â safonau maeth cinio ysgol, a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Mae’r cinio ysgol yn cynnig gwerth da am arian.
- Gellir darparu ar gyfer anghenion dietegol arbennig.
- Dewisiadau llysieuol ar gael yn ddyddiol.
- Datblygu sgiliau cymdeithasol.
- Bwyd i helpu plant i feddwl a thyfu.
- Cynnydd mewn lefelau canolbwyntio yn y prynhawn ar ôl bwyta cinio ysgol cytbwys.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
SIGN ME UP