Yn ddiweddar dechreuom, unwaith eto, ymweld â masnachwyr lleol, annibynnol ac un o’r lleoliadau cyntaf i ni ymweld ag ef oedd La Baguette, caffi bychan cyfeillgar sydd wedi’i leoli ar Stryt y Rhaglaw gyferbyn ag Amgueddfa’r Fwrdeistref Sirol a Choleg y Celfyddydau.
Mae caffi wedi bod yn yr adeilad hwn am 21 o flynyddoedd ac am y chwe blynedd diwethaf Matt McHale, perchennog La Baguette, sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg caffi diweddaraf yr adeilad. Mae’r caffi mewn lleoliad delfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n cerdded i’r dref, neu’n cyrraedd ar fws neu drên.
Mae’r staff yn gymwynasgar iawn ac wrth siarad â hwy, fe ddaeth yn amlwg i ni eu bod yn deall eu gwaith i’r dim a’r cwsmer yw’r brif flaenoriaeth ar bob adeg.
Derbyniodd La Baguette gydnabyddiaeth yng ngwobrau mawreddog Twristiaeth Wrecsam eleni, pan gipiodd y caffi’r wobr am y Caffi/Ystafell De Orau yn 2017 ar ôl wynebu cystadleuaeth gref o bob cwr o’r fwrdeistref sirol.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl, baguettes yw arbenigedd y caffi gydag ystod eang o lenwadau yn amrywio o gig eidion i Pastrami, caws hufen a mwstard grawn cyflawn, ond mae brechdanau, saladau, cawl, tatws trwy’u crwyn, tost, cramwyth, omlet neu frecwast arbennig hefyd ar gael.
Mae’r prisiau’n rhesymol iawn, yn enwedig ar gyfer y rheiny ohonom sy’n prynu ein cinio yn y dref ac mae yna hefyd ostyngiad o 10% i fyfyrwyr – syniad da iawn gan fod y caffi wedi’i leoli gyferbyn â Choleg y Celfyddydau!
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Ar hyn o bryd y frechdan fwyaf poblogaidd yw’r Frechdan Nadolig Arbennig “twrci wedi’i rostio, bacwn, selsig, sesnin saets a nionyn gyda saws llugaeron” a mins pei am £3.75.
Mae La Baguette hefyd yn ddigon bodlon i baratoi bwyd ar gyfer ciniawau corfforaethol a bwffes preifat ac rydym eisoes wedi profi’r bwydydd blasus hyn, gan fod y caffi wedi paratoi sawl bwffe ar gyfer y cyfryngau yn ystod cyfrifiadau etholiad – gyda diolch i Wrexham.com.
Gall marchnata fod yn broses ddrud iawn, yn enwedig i fasnachwr unigol, ond mae La Baguette, ynghyd â llawer o fusnesau eraill yng nghanol y dref, yn cymryd mantais lawn o’r cyfryngau cymdeithasol ac maent yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r holl faterion sy’n ymwneud â chanol y dref.
“Mae trigolion Wrecsam yn glên a chyfeillgar”
Gofynnom i Matt roi ei farn ar drigolion Wrecsam ac fe ddywedodd: “Mae trigolion Wrecsam yn glên a chyfeillgar, dyna pam y dewisais brynu’r caffi hwn. Maent yn ffrindiau mawr â’r staff yma ac ni fedrwn ofyn am well pobl i weithio â hwy.”
Gofynnom hefyd am ei farn ar y cyfleuster celfyddydau a’r farchnad newydd– Tŷ Pawb – ac mae Matt yn croesawu’r fenter newydd hon a ddylai gynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â chanol y dref. Mae hefyd yn awyddus i wybod beth fydd yn digwydd i hen adeilad siop BHS ac adeilad siop TJ Hughes sydd yn wag ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae La Baguette yn enghraifft wych o fusnes sydd yn adnabod ei gwsmeriaid ac yn barod i addasu er mwyn sicrhau bod y cwsmer yn fodlon bob amser. Pob lwc ar gyfer y dyfodol a byddaf yn siŵr o alw heibio’n fuan.”
Mae La Baguette ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 3.00pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 10.30am a 2.30pm.
HAVE YOUR SAY LET OTHERS DECIDE
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.