“Allwn i byth gael gyrfa ym maes gwaith cefnogi, fyddai ddim yn iawn i mi”…ydi hyn yn swnio’n debyg i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod?
Mae gennym ddau gwestiwn i’r bobl hynny…y cyntaf ydi ‘pam ddim?’ yna ‘beth ydych chi wir yn ei wybod am waith cefnogi?’
Y tebygolrwydd ydi, ei fod yn rhywbeth cwbl wahanol i’r hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl, oni bai eich bod chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi cael profiad o waith cefnogi.
Oes mae yna rywfaint o gyfrifoldeb ynghlwm â dilyn gyrfa ym maes gwaith cefnogi gyda ni – fe fyddwch chi’n rhan o fywydau pobl – ond mae yna gymaint o elfennau buddiol sydd yn cyd-fynd ochr yn ochr hefyd, ac mae’r hyblygrwydd yn golygu bod modd cyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith 🙂
Ond dyna ddigon gennym ni, mae hi’n bryd i chi glywed gan Weithwyr Cefnogi o’n tîm Gofal Cartref/Ail Alluogi ynglŷn â pham fod yr yrfa yma’n iawn iddyn nhw, a sut mae wedi effeithio ar eu bywydau 🙂
LAWRLWYTHWCH YR ATODIAD YMA SYDD YN CYNNWYS RHAGOR O WYBODAETH AM FOD YN WEITHIWR CEFNOGI GYDA NI
“Mae hi’n broses ddiddorol iawn – mae’n foddhaol ac yn fuddiol”
Mae Charles wedi bod yn gweithio i’n tîm ail-alluogi gwledig ers saith mlynedd fel gweithiwr cefnogi, ac mae’n egluro sut mae ei yrfa wedi bod o fantais i’w fywyd o, a bywydau pobl eraill.
Meddai Charles, “Rydym ni’n dod i adnabod pobl, rydym ni’n eu hannog ac yn ceisio hwyluso annibyniaeth gydag urddas ac empathi. Rydym yn camu i mewn ac yn eu cefnogi – rydym ni’n gweithio fel tîm i ddarparu cefnogaeth, a thrafod gydag adrannau eraill i hwyluso’r canlyniadau gorau posibl.
Y berthynas hon rhwng Charles, ei dîm a’r bobl sydd angen gofal a chefnogaeth sydd wedi rhoi cryn foddhad swydd iddo. Dywedodd, “Mae hi’n broses ddiddorol iawn – mae’n foddhaol ac yn fuddiol”.
“Hyblygrwydd a dealltwriaeth”
Mae Margaret wedi bod yn gweithio fel gweithiwr cefnogi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol gofal cartref ers 23 mlynedd, ac mae hi’n egluro sut mae hi wedi newid ei phatrwm gwaith dros y blynyddoedd i addasu i’w bywyd hi.
Meddai Margaret, “Fe ddechreuais ar gontract 16 awr, ac am y pedair blynedd gyntaf, roeddwn i’n gweithio patrwm sifft dydd. Pan ganwyd fy mab, doeddwn i ddim eisiau ei roi o yn y feithrinfa, felly gofynnais a fyddai modd i mi weithio sifft min nos, a dyna dwi wedi bod yn ei wneud ers 19 mlynedd.
“Ers mis Ebrill 2019, dwi wedi cynyddu fy oriau contract a dwi’n gwneud cymysgedd o sifftiau dydd a nos. Mae hyblygrwydd fy nghyflogwr wedi bod yn dda iawn ac yn ddeallgar.
“Mae fy mhatrwm gwaith wedi galluogi i mi fod yn fam sy’n gweithio heb golli allan ar fod yno i fy nheulu hefyd”.
Mae Charles hefyd wedi bod yn hapus iawn gyda’i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ers dod yn weithiwr cefnogi. Meddai, “Mae’r swydd yn grêt i mi, mae’n cyd-fynd yn dda ag agweddau eraill fy mywyd a fy hobïau niferus”.
“Y lefel uchaf o gefnogaeth a hyfforddiant da iawn”
Mae Margaret a Charles eisiau pwysleisio pa mor bwysig ydi gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun chwaith. Rydych chi’n cael cefnogaeth lawn ar hyd y ffordd gan reolwyr ac uwch staff.
Meddai Margaret, “Mae rheolwyr ac uwch staff ym maes gofal cartref yn rhoi eu cefnogaeth lawn i mi ac maent yn ddeallgar pan rwyf angen iddynt fod”.
Fe ychwanega Charles, “Dwi wedi bod yn ddiolchgar yn derbyn y lefel uchaf o gefnogaeth a hyfforddiant da iawn. Fe fyddwn i’n sicr yn argymell gyrfa fel gweithiwr cefnogi”.
Sut allaf i gymryd rhan
Rydym ni’n hysbysebu am Weithwyr Cefnogi’n aml ar y dudalen swyddi ar ein gwefan.
Tarwch olwg, mae yna nifer o gyfleoedd i weithio i’n tîm Gofal Cartref/Ailallugoi ar hyn o bryd.
Pa unai ydych chi’n fyfyriwr sydd yn chwilio am waith i gefnogi eich astudiaethau, neu’n rhiant sy’n chwilio am waith sy’n galluogi i chi ofalu am eich plant, neu beth bynnag ydi’ch sefyllfa, fe fyddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi 🙂
Mae yna gyfradd tâl da iawn ar gyfer Gweithiwr Cefnogi, yn ogystal â gwyliau hael, pensiwn, a’r manteision eraill y mae Margaret a Charles wedi sôn wrthym ni.
Oes gennych chi ddiddordeb? Cliciwch ar y ddolen isod i weld pa swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd 🙂
CYMERWCH GIP AR Y SWYDDI HYN
Lawrlwythwch yr atodiad yma sydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fod yn weithiwr cefnogi gyda ni