Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth yw barn Mara ynglŷn â Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Beth yw barn Mara ynglŷn â Wrecsam?
ArallY cyngor

Beth yw barn Mara ynglŷn â Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: 2017/09/29 at 4:02 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Mara
RHANNU

Mae pobl Wrecsam yn griw cyfeillgar. Ac mae gennym gysylltiadau cryf gyda threfi a dinasoedd ar draws y byd.

Cynnwys
Felly…Mara…beth yw dy farn am Wrecsam?Sut mae pethau yng Nghyngor Wrecsam? Ydi pethau’n wahanol iawn yma o’i gymharu â’r Almaen?Felly a yw eich amser yma’n profi’n ddefnyddiol?Allwch chi ddysgu ychydig o Almaeneg i ni?Rhywbeth fel ein hymadrodd ‘break a leg’?

Ond gyda Märkischer Kreis yn Yr Almaen mae un o’n cysylltiadau cryfaf.

Felly roeddem yn hapus iawn i groesawu myfyrwraig Märkischer Kreis, Mara Schubert, i Gyngor Wrecsam ar leoliad profiad gwaith rhyngwladol y mis hwn.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Roedd Mara eisoes wedi gweithio mewn llywodraeth leol yn Yr Almaen fel rhan o’i chwrs, ac mae nawr yn cael gweld sut mae pethau’n gweithio yma yn y DU.

Mae hanner ffordd drwy leoliad tair wythnos ac yn byw ger canol y dref gyda chyd fyfyrwyr.

Felly beth yw ei barn?

Yn ei geiriau ei hun…

Felly…Mara…beth yw dy farn am Wrecsam?

“Dyma’r tro cyntaf i mi ymweld â’r DU. “Dwi wir yn mwynhau fy amser yn Wrecsam.

“Mae yma barciau hyfryd ar gyfer mynd am dro ar ôl gweithio. Ac mae’r bobl yn gwrtais iawn gyda phawb ac maent wedi rhoi croeso mawr i mi.

Sut mae pethau yng Nghyngor Wrecsam? Ydi pethau’n wahanol iawn yma o’i gymharu â’r Almaen?

“Hwn yw ail wythnos fy lleoliad ac rydw i wedi bod yn gweithio gyda gwahanol adrannau.

“Rwyf wedi sylwi ar rai gwahaniaethau o ran sut mae pethau’n gweithio.

“Hefyd, mae gennych God Ymddygiad yng Nghyngor Wrecsam, sy’n cynnwys eich cyswllt â chwsmeriaid.

“Mae gennym god yn Märkischer Kreis hefyd, ond mae’n wahanol. Yn ei hanfod, mae’n nodi sut i weithio’n gywir – pa mor hir mae gweithwyr yn gweithio, modelau amser-gwaith a sut i amddiffyn data personol.

“Hefyd mae gwahaniaeth mawr mewn dyletswyddau a chyfrifoldebau.
Mae Cyngor Wrecsam – yn ogystal â sefydliadau eraill – yn gyfrifol am ofal cymdeithasol. Rydych yn trefnu hyfforddiant i ofalwyr cymdeithasol ac ati.

“Ond dyw Märkischer Kreis ddim yn gyfrifol am ofal cymdeithasol. Mae sefydliadau eraill yn gwneud y gwaith yma.”

Felly a yw eich amser yma’n profi’n ddefnyddiol?

“Rwy’n credu fod fy arhosiad yn Wrecsam yn profi’n hynod ddefnyddiol. Gallaf wella fy sgiliau Saesneg a dysgu rhai pethau pwysig am gyngor mewn gwlad dramor.

“Rwyf wedi clywed ychydig o’r iaith Gymraeg hefyd, ac yn gobeithio clywed mwy cyn i fy lleoliad ddod i ben.”

Allwch chi ddysgu ychydig o Almaeneg i ni?

“Wrth gwrs. Rwyf eisiau dysgu ymadrodd defnyddiol iawn yn yr Almaeneg i chi… “Hals- und Beinbruch!”

“Mae’n cyfieithu fel ‘toriad gwddf-a choes’, a all swnio braidd yn rhyfedd! Ond mae’n golygu rhywbeth fel ‘pob lwc!’”

Rhywbeth fel ein hymadrodd ‘break a leg’?

“Ie…efallai!”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n cynnal grŵp chwaraeon? Peidiwch â cholli’r cyfle am gyllid. Ydych chi’n cynnal grŵp chwaraeon? Peidiwch â cholli’r cyfle am gyllid.
Erthygl nesaf Cysylltiadau cryf â’r dref i Siop Gigydd Hugh John Jones Cysylltiadau cryf â’r dref i Siop Gigydd Hugh John Jones

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle Medi 4, 2025
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lleY cyngor

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25

Medi 5, 2025
Driving
Arall

Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya

Medi 3, 2025
Mobile phone
Arall

Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul

Medi 1, 2025
Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English