Beth yw llwytho a dadlwytho?

Loading boxes

Llwytho (neu ddadlwytho) yw pan rydych yn symud nwyddau yn barhaus rhwng cerbyd ac eiddo. Hefyd fe ddylai’r nwyddau fod un ai yn drwm neu’n swmpus i roi’r hawl i dderbyn yr eithriad hwn.

I wybod mewn gwirionedd os ydych chi’n dadlwytho neu’n llwytho ac i beidio â bod mewn perygl o gael dirwy, dyma beth NAD YDYNT yn enghreifftiau o lwytho neu ddadlwytho!

• Parcio lle mae eich cerbyd yn achosi rhwystr
• Aros yn yr un lle pan ofynnwyd i chi symud gan un o swyddogion yr heddlu neu swyddog gorfodi traffig
• Gadael eich cerbyd pan nad ydych yn llwytho neu’n dadlwytho – un ai i gael egwyl neu i bacio neu ddadbacio eitemau o fewn yr eiddo

Beth sy’n digwydd os ydych yn torri’r rheolau?

Os ydych yn parcio cerbyd mewn parth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny, fe allwch dderbyn hysbysiad cosb o £70 gan swyddogion gorfodi traffig y Cyngor.
Eich cyfrifoldeb chi fel gyrrwr y cerbyd yw gwirio’r arwyddion sydd mewn grym a gwybod rheolau’r ffordd.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]