Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bin heb ei wagio? Gall hyn fod yn fater mynediad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Bin heb ei wagio? Gall hyn fod yn fater mynediad
Y cyngor

Bin heb ei wagio? Gall hyn fod yn fater mynediad

Diweddarwyd diwethaf: Awst 4, 2020 3:27 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Waste
RHANNU

Mae ein criwiau sbwriel wedi bod yn adrodd am achosion newydd lle nad ydynt wedi gallu cael mynediad at strydoedd oherwydd bod ceir wedi parcio yn achosi problemau. Felly ystyriwch sut ydych yn parcio eich car, yn arbennig ar eich diwrnod casglu.

Rydym yn gwybod fod casglu biniau gwastraff a biniau ailgylchu yn brydlon yn bwysig iawn i bob un ohonom yn Wrecsam, ac i’r mwyafrif ohonom, mae hyn yn digwydd yn ddidrafferth.

Ond os yw ceir wedi’u parcio yn atal ein criwiau rhag cael mynediad at eich stryd, yn anffodus bydd rhaid iddynt adael heb wagio eich sbwriel ac ailgylchu.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae enghreifftiau diweddar lle nad yw ein cerbydau wedi gallu mynd i’r llefydd angenrheidiol, ac mae hyn wedi siomi nifer o bobl gan nad yw eu biniau na bocsys ailgylchu wedi gallu cael eu casglu. Mae un car neu fan wedi parcio yn ddigon i’n rhwystro ni rhag casglu biniau’r stryd cyfan felly gofynnwn i drigolion wirio eu strydoedd i weld os oes digon o le i’n cerbydau mawr gyflawni eu dyletswyddau yn ddiogel. Rydym yn casglu o 64,000 aelwyd bob wythnos ac mae bob amser yn siomedig os yw rhai yn colli allan ar eu casgliadau oherwydd parcio gwael.”

Cofiwch, mae ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod.

Gallwch ein helpu i osgoi methu casgliadau drwy gymryd gofal wrth barcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod dibynnu ar barcio ar y stryd.

Edrychwch ar y lluniau isod a chewch weld rhai o’r problemau y mae ein lorïau bin a’n cerbydau ailgylchu yn eu hwynebu o ganlyniad i geir/faniau sydd wedi parcio ac yn eu rhwystro rhag cael mynediad at eiddo.

Bin heb ei wagio? Gall hyn fod yn fater mynediad

Mae technoleg wedi’i osod ym mhob un o’n cerbydau – gan gynnwys teledu cylch caeedig – sy’n caniatáu i’r criwiau gadw cofnod o finiau nad ydynt wedi’u cyflwyno cyn 07:30am, neu unrhyw broblemau yn ymwneud â mynediad, sy’n atal ein criwiau rhag ymgymryd â chasgliadau.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Diolch i Chi am Bopeth... Gadewch i ni barhau i weithio’n galed i Ddiogelu Wrecsam Diolch i Chi am Bopeth… Gadewch i ni barhau i weithio’n galed i Ddiogelu Wrecsam
Erthygl nesaf Diwrnod Chwarae! Diwrnod Chwarae!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English