Mae Llyfrgelloedd yn adnodd cyhoeddus anhygoel.
Fel y nodwyd yn ddiweddar, dim ond £10.20 y flwyddyn mae’r gwasanaeth llyfrgell yn ei gostio yn Wrecsam ar Fand D Treth y Cyngor.
Ac i ddathlu llyfrgelloedd a’r cyfraniad y gallant ei wneud i’r gymuned a gwasanaethau, bydd Llyfrgell Wrecsam yn cymryd rhan yn Wythnos y Llyfrgelloedd – sy’n cymryd lle Diwrnod Cenedlaethol y Llyfrgell.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
I ddathlu Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd, o ddydd Llun Hydref 9 tan ddydd Sadwrn, Hydref 14, bydd y llyfrgell yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau – gan gynnwys noson gyda dau awdur nofelau ditectif nodedig.
Bydd Paul Finch a Neil White yn y llyfrgell o 7 pm ddydd Mawrth, Hydref 10, gan roi cip y tu ôl i’r llenni ar ymchwiliadau llofruddiaeth go iawn a rhoi cipolwg ar ysgrifennu dramâu ditectif oriau brig ar gyfer y teledu, gyda sesiwn Cwestiwn ac Ateb ac arwyddo llyfrau i ddilyn.
Cyn blismon a newyddiadurwr yw Paul Finch ac mae bellach yn awdur nofelau ditectif llawn amser. Magodd brofiad yn y maes drwy ysgrifennu ar gyfer cyfres heddlu The Bill.
Cyfreithiwr troseddol yw Neil White o ddydd i ddydd ac awdur nofelau ditectif gyda’r nos.
Mae tocynnau ar gyfer y noson yn costio £5 yr un (consesiynau £4) ac maent ar gael o Lyfrgell Wrecsam.
Yn ystod yr wythnos, bydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ganfod yr amrywiaeth o bethau y gallant eu gwneud yn eu llyfrgelloedd lleol – o chwarae a dysgu i blant, i gynnal eich iechyd, i gael mynediad i Wi-Fi a gemau, canfod swydd, diddordeb neu ddechrau busnes.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan werthfawr yn ein cymunedau, ac mae’r gwasanaethau y gallant eu darparu yn amhrisiadwy i’r miloedd o bobl sy’n eu defnyddio bob blwyddyn.
“Felly fe fyddwn yn annog preswylwyr Wrecsam i ymweld â’u llyfrgell yn ystod Wythnos y Llyfrgelloedd – maent yn cynnig llawer mwy o wasanaethau na’r disgwyl.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
SIGN ME UP