Beth sy’n mynd yn ble? A oes modd ailgylchu’r eitem hon? Ble ddylwn i roi hwn? Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau y mae llawer ohonom yn eu gofyn am ailgylchu wrth i ni geisio gwneud ein gorau dros Wrecsam.
I geisio gwneud pethau’n fwy clir, rydym wedi creu cwis cyflym i ddangos i chi ble i ailgylchu 15 o eitemau sy’n peri rhywfaint o ddryswch.
Rhowch gynnig arni i weld sut hwyl gewch chi 🙂
Wel, ydych chi wedi dysgu rhywbeth? Peidiwch â phoeni os na chawsoch farciau llawn yn syth. Y peth pwysig yw eich bod wedi cymryd rhan a’ch bod yn barod i ddysgu mwy.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Efallai’ch bod wedi sylwi hefyd bod modd ailgylchu pob un o’r eitemau! Os oes gennych eitem anghyffredin fel sychwr gwallt neu gwilt ac os nad ydych yn siŵr a oes modd ei ailgylchu, mae’n debyg bod yr ateb o fewn eich gafael… mae’n dod yn haws dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch!
Edrychwch ar ein blog newyddion… rydym yn cyhoeddi erthyglau ailgylchu yn rheolaidd, felly mae’n bosibl bod yr ateb yn un o’n blogiau eraill. Chwiliwch am yr eicon chwyddwydr yng nghornel dde uchaf y dudalen a theipiwch ‘ailgylchu’ yn y blwch i weld ein herthyglau eraill.
A wnaethoch fwynhau’r cwis?
Os felly, rhowch gynnig ar un o’n cwisiau ailgylchu eraill i weld sut hwyl gewch chi arni…
Gwych o beth ydi cael lle yn y bin…rhowch gynnig ar ein cwis ailgylchu hwyliog i gael gwybod pam! Cwblhewch y cwis yma…
Does neb yn berffaith…rhowch gynnig ar y cwis ailgylchu hwyliog hwn sy’n tynnu sylw at rai camgymeriadau sy’n hawdd eu gwneud Cwblhewch y cwis yma…
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU