Ydych chi’n chwilio am swydd newydd yn 2018? Beth am ymgymryd â rôl ofalu gydag un o’n partneriaid?
Rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i’r henoed neu bobl ddiamddiffyn ar draws y fwrdeistref sirol ac mae swyddi gwag i’w cael gyda’r partneriaid hynny sydd efallai yn ddelfrydol ar eich cyfer.
Nid oes rhaid cael profiad na chymwysterau i fod yn gymwys am y mwyafrif o’r cyfleoedd sydd ar gael ac yn ychwanegol mae’r mwyafrif o’r swyddi yn cynnig hyfforddiant er mwyn gwella eich CV. Gall yr oriau gwaith amrywio ac mae modd i chi weithio’n llawn amser neu’n rhan amser. Bydd costau teithio gweithwyr gofal yn y cartref hefyd yn cael eu talu.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Er gall y gwaith fod yn eithaf trwm ar adegau, gall gweithio yn y maes gofal cymdeithasol roi boddhad mawr gan ein bod yn gweithio gyda’r unigolion hynny sydd fwyaf angen ein gofal, cymorth a chefnogaeth i fyw bywydau annibynnol o fewn eu cymunedau. Mae cyfleoedd i’w cael ar draws y sector, o gynnig cefnogaeth byw â chymorth 24/7 i swydd fel Cymhorthydd Gofal, felly os ydych chi am gael swydd yn gweithio fel rhan o dîm mawr ar draws Wrecsam, ewch i’n gwefan heddiw.”
Cymrwch gipolwg ar y cyfleoedd sydd ar gael yma.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT