Young person

Yn galw ar holl bobl ifanc…

Mae Senedd yr Ifanc Wrecsam yn eich annog i gymryd rhan trwy gyflwyno’ch materion yn syth iddyn nhw. Bydd y pethau sy’n bwysig i chi, eich grwpiau a’ch ysgolion yn cael eu trafod.

Y nod yw rhoi lle i bobl ifanc wrth y bwrdd dadlau pan drafodir newidiadau mawr a allai effeithio ar weddill eu bywydau.

I fod yn gynrychiolydd, mae angen i chi fod rhwng 11 a 25 oed ac mae’r Senedd yn chwilio’n frwd am fwy o aelodau. Felly peidiwch ag oedi!

Wedi’r cyfan, chi yw’r dyfodol, felly dylanwadwch arno… peidiwch â dianc oddi wrtho!

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

Beth yw cynrychiolydd?

Mae cynrychiolwyr yn sicrhau bod barn pobl ifanc eraill o’u grŵp, fforwm neu ysgol yn cael eu hystyried mewn materion sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled y sir ac yna’n bwydo unrhyw wybodaeth, atebion neu ddiweddariadau yn ôl iddynt.

Dydw i ddim eisiau cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth…

Peidiwch â chael eich troi oddi ar y syniad gan eich bod yn meddwl ei fod yn rhy wleidyddol. Nid oes raid i chi gael eich ethol i gynrychioli grŵp neu brosiect yn yr ardal. Dewch draw gyda’ch llais a’ch barn.

Cynhelir cyfarfodydd ar ddydd Llun olaf y mis yn Neuadd y Dref Wrecsam a chynhelir y cyfarfod nesaf ar 25 Mehefin. Bydd hwn yn gyfarfod agored ac mae pobl ifanc yn cael eu hannog i ddod draw i weld beth sy’n digwydd.

Beth allaf ei ddisgwyl o’r cyfarfod?

Mae bwlio’n fater allweddol sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Gallech gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb neu os hoffech gwrdd â phobl ifanc eraill, dyma’r cyfle perffaith i wneud hynny. Bydd sesiwn cwrdd a chyfarch yn dechrau am 4.30pm a bydd y cyfarfod ymlaen o 5pm tan 8pm.

Mae’n argoeli i fod yn un arbennig o dda hefyd. Mae disgwyl i nifer o gynghorwyr arweiniol fod yn bresennol gan gynnwys Andrew Atkinson, William Baldwin, Phil Wynn, Mark Pritchard a Hugh Jones felly byddwch yn siarad yn uniongyrchol â nhw.

Mae Caroline Bennett, Cydgysylltydd Cyfranogiad yn dweud pam y dylech gymryd rhan:
“Mae Senedd yr Ifanc yn gyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan yn y materion a gyflwynir i ni gan bobl ifanc. Mae’r cyfarfodydd misol yn hwyliog ac yn rhyngweithiol ac mae llawer o bynciau y gallwch ymgymryd â nhw ynghyd â llawer o brosiectau ac is-grwpiau diddorol.

“Mae’n ffordd dda i gwrdd â phobl ifanc newydd mewn amgylchedd diogel gan leisio barn am faterion lleol a chenedlaethol a phenderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc ar yr un pryd.”

Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018

Mae wythnos gwaith ieuenctid ar y gorwel hefyd (23-30 Mehefin), felly cadwch eich llygaid ar agor am ddiweddariadau cyffrous dros yr wythnosau nesaf. Mae nifer o ddigwyddiadau hwyliog ac anffurfiol y mae croeso i chi gymryd rhan ynddynt.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Senedd yr Ifanc trwy e-bostio youngvoices@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 317961.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb

DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB