Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Wrecsam i anrhydeddu a thynnu sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ac rydym yn edrych am fwy o grwpiau, busnesau neu sefydliadau i gymryd rhan.
Nod y digwyddiad yw dathlu gwaith Strydoedd Mwy Diogel sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal ag arddangos yr holl waith da sy’n cael ei wneud gan gwmnïau, sefydliadau ac elusennau lleol i gefnogi a grymuso merched yn Wrecsam.
Mae’n cael ei gynnal ddydd Gwener, 8 Mawrth yn Tŷ Pawb rhwng 10am a 1pm.
Ar y dydd bydd llawer o weithgareddau a chynigion ynghyd â stondinau ac adloniant ond rydym yn edrych am hyd yn oed mwy o stondinwyr i ddod ynghyd er mwyn dathlu’r achlysur.
Os hoffech fod yn rhan o’r dathliadau ac eisiau arddangos eich sefydliad neu faes gwaith anfonwch e-bost at communitysafety@wrexham.gov.uk am ragor o fanylion.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddigwyddiad ledled y byd sy’n hyrwyddo cyflawniadau merched, mwy o gydraddoldeb rhywiol a grymuso. Thema 2024 yw ysbrydoli cynhwysiant ac rydym yn awyddus i allu cynrychioli cymaint o sefydliadau Wrecsam ag sy’n bosib.
Sefydliadau sydd wedi cadarnhau eu presenoldeb yw:
- Uned Diogelwch Trais Teuluol
- RASASC
- Cheri Mills Coaching
- MPCT
- Heddlu Gogledd Cymru
- Freedom Leisure and Zumba Demo
- Tîm Pobl Ifanc Egnïol
- Dechrau’n Deg
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Ysgolion Iach
- Coleg Cambria
- Diogelwch Cymunedol
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru