Mae adroddiad newyddion gan Which yn dangos peryglon goleuadau coed Nadolig rhad sy’n cael eu gwerthu gan werthwyr trydydd parti drwy AliExpress, eBay a Wish.
Eu cyngor nhw yw “peidiwch â phrynu’r goleuadau hyn, neu tynnwch nhw i lawr os oes gennych rhai yn barod, oherwydd y gallent oleuo eich Nadolig yn y ffyrdd anghywir.”
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Roedd bron i hanner y goleuadau coed Nadolig a brynodd Which? o AliExpress, eBay a Wish yn anniogel yn drydanol ac yn beryglus i’w defnyddio. Tra’r oedd mwy na 90% o’r rhai a wnaethom wirio – gan gynnwys pedwar model o Amazon Marketplace – wedi methu â bodloni’r safonau i gael eu gwerthu’n gyfreithlon yn y DU.
Darllenwch yr erthygl yn llawn yma.
Archwiliodd Swyddogion Safonau Masnach Wrecsam siopau lleol, a phrynu naw llwyth o oleuadau. Fe wnaethant i gyd basio profion cydymffurfio, ac roeddent i gyd yn ddiogel i’w defnyddio.
Os ydych yn chwilio am oleuadau Nadolig newydd, meddyliwch yn ofalus am ddiogelwch. Prynwch o ffynonellau cyfreithlon a gwiriwch y cynnyrch. Dylai pob set o oleuadau fod â nod CE, dylai gynnwys manylion y gwneuthurwr neu fewnforiwr a dylai gynnwys cyfarwyddiadau llawn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â’i brynu. Os oes gennych bryderon am set o oleuadau yr ydych wedi eu prynu, peidiwch â’u defnyddio a chysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
Mae canlyniadau Which? yn amlygu risgiau sylweddol wrth brynu o gyflenwyr anhysbys ar ebay ac o ffynonellau rhyngwladol. Gall oleuadau coed Nadolig sydd o ansawdd gwael gyflwyno perygl o dân neu sioc – ac ni fydd hyn yn arwain at Nadolig Llawen. Peidiwch â chwarae gyda thân, byddwch yn ddiogel a byddwch yn ystyriol wrth siopa.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN