Rydym yn ymwybodol o achosion o fridio cŵn yn ddidrwydded o fewn ardal Wrecsam ac mae ein swyddogion ar hyn o bryd yn gwirio gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio i hysbysebu cŵn bach ar werth.
Mae angen trwydded arnoch os ydych yn bridio 3 torllwyth neu fwy o fewn cyfnod o 12 mis. Mae angen trwydded arnoch os ydych yn gwerthu’r cŵn bach neu beidio.
Os ydych chi’n credu eich bod efallai angen trwydded, cysylltwch â’r Tîm Bwyd a Ffermio drwy ffonio 01978 298997 neu e-bostio foodandfarming@wrexham.gov.uk.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Yn y pen draw, diben y drwydded yw sicrhau bod safonau lles y cŵn yn cael eu cwrdd.
Os ydych chi’n ystyried prynu ci bach, darllenwch y cyngor canlynol:
- Ceisiwch gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y ci bach, ei rieni, ei frodyr a’i chwiorydd.
- Ewch i weld y ci bach a’i rieni yn ei amgylchedd ei hun a cheisiwch fynd i’w weld yn fwy nag unwaith.
- Byddwch yn ymwybodol o esgusion sy’n golygu nad oes modd i chi weld y fam, megis ei bod wedi mynd am dro, ei bod gyda ffrind neu oherwydd bod ganddi apwyntiad â’r milfeddyg.
- Gofynnwch i gael gweld dogfennau’n ymwneud â brechiadau, microsglodynnu ac unrhyw brawf iechyd perthnasol.
- Peidiwch â chwrdd neu brynu ci bach o lefydd megis meysydd parcio neu gilfannau.
- Byddwch yn ymwybodol o rifau ffôn amrywiol yn cael eu defnyddio a ffotograffau tebyg ar hysbysiadau gwahanol.
- Gofynnwch i gael gweld eu trwydded cyngor.
- Peidiwch â chael eich brysio i wneud penderfyniad neu drosglwyddo unrhyw arian.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN