Mae llawer iawn o hanes yn perthyn i Frymbo ac mae’r arddangosfa newydd yn Amgueddfa Wrecsam yn edrych ar y pentref trwy lygaid artistiaid, diwydiant a chymdeithas.
Pobl a Lleoedd yn cynnwys:
- Llun wedi’i beintio mewn olew o John Wilkinson, sylfaenydd gwreiddiol Gwaith Haearn Brymbo
- Albwm ffotograffau a chyfeiriadau wedi’i oleuo a gyflwynwyd i Mr J H Darby, rheolwr gyfarwyddwr Gwaith Haearn Brymbo yn Ebrill 1908 gan y tîm rheoli a’r gweithlu
- Helmed dyn tân gwreiddiol o Frigâd Dân Brymbo
- Cragen brin wedi goroesi a wnaed o haearn Brymbo gan yr Ordnans Brenhinol
- Teclynnau ac offer a ddefnyddiwyd gan Walter Salisbury a’i gydweithwyr yn ffowndri’r gwaith haearn, a
- Llestri arian o Gapel Wesleaidd Bethel, Brymbo.
Mae’r arddangosfa hefyd yn rhoi cyfle i arddangos gwaith celf a cherfluniau Ben Boenisch, cyn weithiwr Gwaith Haearn Brymbo.
Roedd Mr Boenisch yn wron o Gymdeithas Celf Wrecsam a’r Ardal yn yr 1970au a’r 1980au ac roedd yn gweithio fel rheolwr arlwyo’r Gwaith Haearn, ond roedd peryglon achlysurol y Ffwrnais Drydan a’r felin rholio yn ddim o’i gymharu â bywyd Mr Boenisch yn ystod y rhyfel; yn cwffio’r Wehrmacht yn dilyn ymosodiad yr Almaenwyr a’r Sofietiaid ar ei famwlad, Gwlad Pwyl ym 1939; gan ddianc ar draws Ewrop yng nghanol brwydo’r rhyfel gan gyrraedd Ffrainc i ddechrau cyn cyrraedd Prydain; ac yna’n ymladd gyda’r Magnelwyr Brenhinol yn Byrma.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Arweinydd y Cyngor “Ffowndrïau, Ffwrneisi a Ffydd Brymbo yw’r gyfres ddiweddaraf o arddangosfeydd sy’n canolbwyntio ar hanes diwydiannol Cyngor Bwrdeistref Wrecsam.
“Hoffai Gwasanaeth Treftadaeth ac Archif Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiolch i Colin Davies, Walter Salisbury a Brian Gresty o Grŵp Treftadaeth Brymbo am eu cymorth wrth adnabod a thynnu sylw at wrthrychau o ddiddordeb yng nghasgliad yr amgueddfa.
Mae’r blwch arddangos ‘Pobl a Llefydd’ yng nghanol y brif oriel yn Amgueddfa Wrecsam.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT